Cartref > Digwyddiadur > Frân Wen a Theatr y Sherman: Dynolwaith
Gwybodaeth
Cyd-gynhyrchiad gan Frân Wen a Theatr y Sherman
Dynolwaith
DYN MEWN DATBLYGIAD
Mae’n 2015. Mae Jac yn ddyn traws ifanc, wedi’i eni yn y corff anghywir, yn dechrau chwilio am y bywyd mae o wir eisiau ei fyw.
Wrth iddo gychwyn ar y daith o drawsnewid, mae tensiynau’n codi, mae perthnasoedd yn dechrau teimlo’r straen, ac mae’r gefnogaeth sydd wastad wedi bod yn gadarn yn dechrau teimlo’n fregus. Pan gaiff ei wrthod mae’n ei cholli hi ac yn gwthio’i gorff a’i feddwl i’r eithaf.
All Jac ddibynnu ar y rhai agosaf ato pan mae o eu hangen fwyaf? Wedi ei ’sgwennu a’i berfformio gan Leo Drayton, dyma stori hynod bersonol ac emosiynol am hunan-ddarganfod, dewrder a thrawsnewidiad fydd yn aros yn y cof ymhell ar ôl i’r llenni gau.
Oed: 16+
Nos Wener 10 Hydref
7.30pm
Stiwdio
Safonol: £15
Dros 60 / Myfyrwyr / Dan 18: £13
Ysgolion: £10 (athrawon am ddim)
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a Chapsiynau Cymraeg a Saesneg
Hyd y sioe: 70 munud heb egwyl a bydd sgwrs ar ôl sioe