Romantic photo of Romeo and Juliet in the rain

Theatr Cymru: Romeo a Juliet

Cartref > Digwyddiadur > Theatr Cymru: Romeo a Juliet

Gwybodaeth


Cynhyrchiad Theatr Cymru mewn cydweithrediad â Shakespeare’s Globe

Romeo a Juliet

Gan William Shakespeare
Yn seiliedig ar gyfieithiad J. T. Jones

“Ai dyna iaith dy galon?”

Dau deulu, dwy iaith a phâr o gariadon ifanc sy’n barod i fentro popeth. Dyma olwg newydd ar y stori garu trasig enwog, sy’n gosod ffrae ffyrnig y teuluoedd Montagiw a Capiwlet yng nghymdeithas dwyieithog Cymru – lle mae Cymraeg y Montagiws a Saesneg y Capiwlets yn gwrthdaro. Wrth i ieithoedd wahaniaethu ac uno, mae hen gweryl gwaedlyd yn ail-danio, y cosmos yn troi, a mae dau gariad anffodus yn gwynebu eu tynged. Dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly, bydd y cynhyrchiad arloesol hwn yn plethu’r Gymraeg a’r Saesneg, gan archwilio’r hunaniaeth Gymreig a chynnig safbwynt newydd ar ddrama anfarwol Shakespeare.

Canllaw Oed: 12+
Mae Romeo a Juliet yn cynnwys golygfeydd rhywiol, trais corfforol, arfau, llofruddiaeth a hunanladdiad.

Nos Lun 13 Hydref, 7.30pm
Dydd Mawrth 14 Hydref, 1.30pm + 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

Safonol: £20
Dros 60 / Plant (dan 18) / Myfyrwyr: £18

Bydd capsiynau agored ar gael