Cartref > Digwyddiadur > Dom Joly - Trigger Happy TV, the 25th Anniversary Tour
Gwybodaeth
Mae hi wedi bod yn bum mlynedd ar hugain ers i Trigger Happy TV ymddangos ar ein sgriniau teledu, gan drawsnewid y fformat camera cudd gyda'i fydysawd swreal o gymeriadau a chastiau bythgofiadwy. Nawr, i ddathlu chwarter canrif o anhrefn, mae Dom Joly yn dod â'i gymeriadau a'i sgetshis mwyaf eiconig i'r llwyfan yn Trigger Happy TV – Live!, taith i ddathlu 25 mlynedd y rhaglen. Bydd selogion yn profi eiliadau poblogaidd o’r sioe, gan gynnwys y Falwen Enfawr, y Warden Traffig, y Dawnsiwr Morris, y Sgowt, Gang o Wiwerod, a'r Ffôn Symudol Mawr ENWOG. Bydd Dom yn rhannu straeon a mewnwelediadau o du ôl i'r llenni ar sut y daeth yr eiliadau bythgofiadwy hynny’n fyw. Ond nid dyna lle mae’r syrpreisys yn dod i ben – theatr fyw yw hon, a gall selogion ddisgwyl yr annisgwyl.
Nos Sadwrn 12 Mehefin 2027
7.30pm
Hyd y sioe: tua 120 munud yn cynnwys egwyl
Theatr Bryn Terfel
Safonol: £29 (all other tickets)
Premium: £45 (RHESI B + C + 'goody bag')
Cwrdd a chyfarch: £75 (RHESI A + B cwrdd a chyfarch cyn y sioe + 'goody bag')
