Cartref > Digwyddiadur > Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor: Y Planedau
Gwybodaeth
I ddathlu Gŵyl Wyddoniaeth Prifysgol Bangor, bydd y Gerddorfa Symffoni yn perfformio'r gwaith enwog, ‘Planets Suite’ gan Gustav Holst. Mae'r gwaith saith symudiad yn archwilio hwyliau a phersonoliaeth y saith planed o ran eu cymeriad seryddol a’u cymeriad mytholegol fel y’u gwelir drwy ddychymyg dynol. Nawr bod Plwton wedi'i israddio i'r categori corblaned, mae'r darn unwaith eto yn olygfa gyflawn o blanedau cysawd yr haul fel y'u gwelir o'r Ddaear.
Nos Sadwrn 21 Tachwedd, 8pm
Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
Safonol: £12
Dros 60: £10
Myfyrwyr a dan 18: £5
