Image of Principal Conductor Ryan Bancroft and baritone Steffan Lloyd Owen

BBC NOW: Rhyfel a Heddwch

Cartref > Digwyddiadur > BBC NOW: Rhyfel a Heddwch

Gwybodaeth


MARWNAD | TAITH | GWYDNWCH

Ravel Le Tombeau de Couperin (17')

Vaughan-Williams Songs of Travel (9')

Egwyl

Sibelius Symffoni Rhif 1

Mae rhyfel a heddwch yn dod at ei gilydd mewn cerddoriaeth i gofio, i deithio ac i lawenhau. Mae Ravel yn agor gyda Le Tombeau de Couperin, ei gyfres o 1917 sydd wedi’i hail-ddychmygu ar gyfer cerddorfa: ffurfiau dawns baróc wedi’u hystumio gan liw disglair, symudiadau sydyn o olau a haenau ysgafn o sain.

Yna, mae Vaughan Williams yn troi am i mewn gyda Songs of Travel, sy’n cael eu canu yma gan y bariton Steffan Lloyd Owen. Mae’r straeon am y crwydrwr wedi’u siapio gan ganeuon gwerin a chynhesrwydd tebyg i emynau.

Mae’r daith wedyn yn troi tua’r gogledd gyda Symffoni Rhif 1 Sibelius yn E leiaf, gwaith sy’n cyhoeddi dyfodiad llais symffonig unigryw. Cafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn 1899. Mae agoriad tywyll y clarinet yn arwain yn ddi-oed at ddrama feiddgar, tra bod unawdau trawiadol y llinynnau a’r chwythbrennau yn dod â’r gerddoriaeth yn fyw gyda brys ac ergyd. Er bod y symffoni’n adleisio telynegiaeth a dwyster Rhamantaidd Tchaikovsky, mae’n siarad â hunaniaeth ddigamsyniol, gan arwain at scherzo ffyrnig a diweddglo llawn grym dirdynnol.

Nos Wener 13 Tachwedd, 7.30pm

Neuadd Prichard-Jones

Safonol: £12
Dros 65: £10
Myfyrwyr a dan 26: £7