Man and woman sitting in a room with lots of natural lights and house plants

This Flight Tonight - The Songs of Joni Mitchell

Cartref > Digwyddiadur > This Flight Tonight - The Songs of Joni Mitchell

Gwybodaeth


Teyrnged acwstig bersonol i gerddoriaeth JONI MITCHELL, gyda pherfformiad llawn a chynhwysfawr o 'Blue', albwm mwyaf poblogaidd Joni, yn ei gyfanrwydd. Mae 'Blue' yn cael ei ystyried gan gynulleidfaoedd a beirniaid fel un o'r albymau gorau erioed. Mae gonestrwydd, dawn gerddorol a llais eiconig Mitchell yn gwahodd y gynulleidfa  i brofiad Joni o fyw a charu drwy gyfnod cymhleth o newid cymdeithasol ar ddechrau'r 1970au.

Mae 'Blue' yn tynnu sylw at ganlyniadau degawd o hedoniaeth... 'A Case of You' yn ddatganiad syfrdanol o gariad cyfareddol. 'Little Green', y gellid dadlau ei bod yn un o ganeuon mwyaf personol a dewr Joni. 'California' a 'Carey', llythyrau caru dibryder at deithiau a rhyddid Joni. Band yw Zervas & Pepper sy'n cynnwys y canwyr/cyfansoddwyr o Gymru, Paul Zervas a Kathryn Pepper. Maent wedi bod yn creu a pherfformio cerddoriaeth wreiddiol ers dros ddegawd. Selogion hirhoedlog sy’n cario fflam cerddoriaeth Roc Gwerin Arfordir Gorllewin UDA o ddiwedd y 60au/dechrau'r 70au. Maen nhw, gyda'u band pum aelod, yn cyflwyno sioe ddwy awr/dwy set, yn cynnwys yr albwm 'Blue' wedi'i berfformio yn ei gyfanrwydd. Mae’r ail set.. taith drwy wyth albwm cyntaf Joni, yn cynnwys llawer o'i chaneuon mwyaf parhaol a phoblogaidd o'r albymau 'Song to A Seagull', 'Clouds', 'Ladies of the Canyon', 'Blue', 'For The Roses', 'Court & Spark', 'Hissing of Summer Lawns' a 'Hejira'. Cânt eu perfformio’n ffyddlon, yn barchus ac yn driw i recordiadau tragwyddol Joni.

Nos Sadwrn 17 Hydref, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£25