Richard Thompson wearing a blue suit and a black beanie holding his guitar

Richard Thompson with Zara Phillips

Cartref > Digwyddiadur > Richard Thompson with Zara Phillips

Gwybodaeth


Ni ellir gorbwysleisio dylanwad cerddorol Richard Thompson. Ar ôl cyd-sefydlu'r grŵp arloesol Fairport Convention yn ei arddegau yn y 60au, dyfeisiodd ef ac aelodau eraill y band y math nodedig o Roc Gwerin Prydeinig. Gadawodd y grŵp erbyn iddo fod yn 21 oed ac yna bu mewn partneriaeth gerddorol ddegawd o hyd gyda’i wraig ar y pryd, Linda, a bu’n artist unigol llwyddiannus iawn am dros 30 mlynedd.

Galwodd y Los Angeles Times ef “y cyfansoddwr caneuon roc gorau ar ôl Dylan a’r gitarydd trydan gorau ers Hendrix” ac mae Rolling Stone wedi ei enwi'n un o'r 100 Gitarydd Gorau Erioed. Mae wedi derbyn gwobrau cyflawniad oes am ysgrifennu caneuon gan Wobrau BBC Radio 2, Cymdeithas Gerddoriaeth Americana, a dyfarnwyd Gwobr fawreddog Ivor Novello iddo. Cafodd ei gân “1952 Vincent Black Lightning” ei henwi’n un o’r “100 Can Orau Ers 1923” gan gylchgrawn TIME. Mae amrywiaeth eang o gerddorion wedi recordio caneuon Thompson gan gynnwys Robert Plant, Elvis Costello, REM, Bonnie Raitt, Tom Jones, David Byrne, a llawer mwy.

Mae ei feistrolaeth o’r gitâr acwstig a’r gitâr drydan, sy’n cicio yn erbyn tresi’r genre, ynghyd ag egni gafaelgar a hiwmor ar y llwyfan yn parhau i ennill selogion newydd iddo a lle fel un o’r perfformwyr a’r ysgrifenwyr mwyaf nodedig yn hanes Roc Gwerin.

Nos Wener 5 Mehefin, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£45