WNO logo, instruments and blue sky

Soiree Haf Cerddorfa WNO

Cartref > Digwyddiadur > Soiree Haf Cerddorfa WNO

Gwybodaeth


Arweinydd: Harry Ogg

Unawdydd: Tara Erraught, mezzo-soprano

Schumann Genoveve Overture
Vaughan Williams Songs of Travel
Frances Jenkins The Coming of Night
Mendelssohn Symffoni Rhif 5 Reformation

Ymunwch â Cherddorfa WNO a’r mezzo-soprano byd-enwog Tara Erraught, a’r arweinydd Harry Ogg, am gyngerdd haf bythgofiadwy.

Bydd y perfformiad yn cychwyn gyda drama Genoveve Overture Schumann, gan osod y llwyfan ar gyfer cyngerdd llawn angerdd a dwyster. Yna bydd Tarra Erraught yn serennu gyda chylch caneuon Vaughan Williams, Songs of Travel. Yn cael ei berfformio’n draddodiadol gan leisiau bariton, mae sain mezzo cyfoethog Erraught yn cynnig lliw a dyfnder newydd i’r darn am brofiad cwbl unigryw.

Yn dilyn yr egwyl, bydd The Coming of Night, Frances Jenkins, sydd yn seiliedig ar gerdd o’r un enw, yn swyno gwrandawyr gyda’i bortread atgofus o fin nos a harddwch tawel y cyfnos. Daw’r cyngerdd i ben gyda Symffoni Rhif 5 bywiog Mendelssohn, Reformation, diweddglo gorfoleddus yn llawn mawredd ac ysbryd.

Ymunwch â ni am gyngerdd gwefreiddiol fydd yn codi’ch calon ac yn eich gadael yn ymhyfrydu yn llawenydd yr haf.

Nos Wener 19 Mehefin, 7pm

Theatr Bryn Terfel

Safonol: £24
Dros 60: £21
Myfyrwyr: £10
Dan 16: £5