Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > Owain Train McGilvary - Gweld Coch
Owain Train McGilvary - Gweld Coch

12 Gorffennaf - 1 Medi 2024
Rydyn ni'n falch o gyflwyno'r arddangosfa unigol hon gan Owain Train McGilvary. Ers 2022, mae’r artist wedi bod yn datblygu prosiect yn seiliedig ar 'The Three Crowns', yr unig far hoyw yng Ngogledd Cymru ar y pryd, fel man cychwyn ar gyfer darganfod darn o hanes Cymru sydd yn beryg o fynd ar goll. Trwy gyfweliadau, darlunio ac ail-fframio archif anffurfiol o’r bar, mae’n cyflwyno arddangosfa aml-gyfrwng sy’n talu teyrnged i’r rhai a chwaraeodd ran ddylanwadol yn y sîn LHDTC+ ym Mangor.
Artist o Fôn ydi Owain Train McGilvary (g.1992). Gan weithio fel arfer gyda delwedd symudol a lluniadu, mae ei brosiectau yn archwilio cymhlethdodau iaith a delwedd gyda diddordeb mewn ad-drefnu archifau presennol a chyweithiau trawsddisgyblaethol. Mae ei arddangosfeydd blaenorol yn cynnwys ‘I’m attended as a portal myself’, arddangosfa ar y cyd â Bobbi Cameron fel rhan o Glasgow International. Graddiodd o'r MFA yn Ysgol Gelf Glasgow (2019) a BA(Hons) o Central Saint Martins (2015).
Ariennir yr arddangosfa hon gan Gyngor Celfyddydau Cymru.