Cartref > Digwyddiadur > Siôn Blewyn Coch (U)
Gwybodaeth
Cymraeg gyda is-deitlau Saesneg
I ddathlu penblwydd Pontio yn 10 oed, cynhelir dangosiad arbennig o Siôn Blewyn Coch (U) yn ein Stiwdio gyda Gŵyl Animeiddio Caerdydd. Mae Siôn a Siân y llwynogod eisiau dwyn twrci Eban Jones y ffermwr ar Noswyl Nadolig, ond mae eu mab Mic - sy'n ffrind i'r twrci - yn eu hatal ac yn achub Gobl Gobl. Stori gynnes o Lyfr Mawr y Plant.
Bydd sesiwn stori a chanu Nadoligaidd gyda Siwan Llynor i ddilyn.
David Edwards, 1986, 22 munud
Dydd Sadwrn 13 Rhagfyr, 11am
Stiwdio
Mae hwn yn digwyddiad AM DDIM, ond bydd angen archebu tocyn ymlaen llaw.
