Image of Sali Mali, the title and Arad Coch's logo

“Ti werth y byd, Sali Mali!”

Cartref > Digwyddiadur > “Ti werth y byd, Sali Mali!”

Gwybodaeth


Paratowch am antur hudolus, liwgar a llawn hwyl gyda Sali Mali a’i ffrindiau!

Dewch i gamu i fyd arbennig cymeriadau hoffus Mary Vaughan Jones wrth iddyn nhw ddod yn fyw ar lwyfan mewn drama newydd sbon i blant bach a’u teuluoedd.

Gyda cherddoriaeth, caneuon a digonedd o chwerthin, bydd Cwmni Theatr Arad Goch yn eich tywys ar antur gyffrous, gan ddathlu’r hyn sy’n ein gwneud ni i gyd yn arbennig ac yn unigryw. Oherwydd mae gan bawb eu doniau eu hunain, ac mae gan bawb rywbeth arbennig i’w gynnig!

Dewch i ganu, chwarae a chael eich swyno gan fyd Sali Mali mewn cynhyrchiad llawn dychymyg, cynhesrwydd a hud, yn arddull unigryw Arad Goch.

Ymunwch â ni am antur theatrig arbennig yr haf hwn – a chofiwch, ti werth y byd!

*Cynhyrchiad Cymraeg ond yn addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd*

Dydd Iau 8 Gorffennaf, 10am + 1pm
Dydd Gwener 9 Gorffennaf, 10am

Theatr Bryn Terfel

£10

Oedran: 2–7 oed

Hyd: Tua 50 munud