Cartref > Digwyddiadur > Ballet Cymru + Krystal S. Lowe: Merched y Môr
Gwybodaeth
Cyd-gynhyrchiad rhwng Ballet Cymru a Krystal S. Lowe.
Mae Ballet Cymru a Krystal S. Lowe yn cyflwyno addasiad beiddgar o’r chwedl Gymreig Merched y Môr gyda cherddoriaeth gan Kizzy Crawford.
Mae gan bob gwlad ei stori – stori ei dechreuad, os mynnwch chi . . .
Mae Merched y Môr yn dapestri o’r gair llafar amlieithog, dawns ddynamig, a chyfuniad Kizzy Crawford o gerddoriaeth enaid/ffync/jazz. Dewch gyda ni wrth i ni adrodd hanes tair menyw o wledydd gwahanol – ymladdwr, iachäwr, ac arweinydd – sy’n teithio i ddod o hyd i anturiaethau newydd hyd nes bod gelyn annisgwyl yn eu hannog i gyd-sefyll a brwydro i amddiffyn y rhyddid i ddewis.
Nos Wener 28 Tachwedd
7.30pm
Theatr Bryn Terfel
Perfformiad yn cynnwys dehongliad BSL
Safonol: £16
Dros 60 / Myfyrwyr / Dan 18: £14