Llun o dau ddawnsiwr mewn dillas wedi gorchuddio gyda brasluniau

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru: GWEFR

Cartref > Digwyddiadur > Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru: GWEFR

Gwybodaeth



Archwiliwch fydoedd newydd drwy ddawns. Darganfyddwch dri byd newydd sy’n ymestyn o chwedloniaeth hynafol i ffuglen wyddonol ddyfodolaidd. Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn eich trawsgludo drwy stori, amser a lle gyda’r triawd o ddawnsfeydd hudolus a chynllunio hyfryd.

Beth am gael eich ysbrydoli gan ‘Infinity Duet’, cydweithrediad unigryw rhwng y coreograffydd Faye Tan a’r artist Cecile Johnson Soliz y mae ei gwisgoedd sydd wedi’u gorchuddio gyda brasluniau a’r cerflun sy’n siglo yn cymryd eu lle ar ganol y llwyfan, ochr yn ochr â symudiad cynnes, ysbrydol sy’n archwilio pwysau ac amser.

Cewch eich hudo gan ‘Waltz’ Marcos Morau, sydd wedi swyno cynulleidfaoedd ar hyd a lled Ewrop. Mae bodau disglair o du hwnt i’r byd hwn yn symud ar draws tirwedd wen, foel gyda chywirdeb manwl iawn. Dyma antur ffuglen wyddonol yn creu anhrefn, trefn a rheolaeth, sy’n cael ei galw'n 'hollol gymhellol' gan y Times.

Yn olaf, cewch eich trawsgludo ar siwrne i ddarganfod ‘Mabon’ gan Osian Meilir. Profwch y Mabinogion mewn goleuni newydd wrth i chi fynd ar daith drwy’r hen Gymru i gwrdd ag anifeiliaid hynaf y byd. Mae traddodiad yn cael ei ystumio gan ddychymyg gwyllt yn y chwedl fodern hon. Mae gwisgoedd rhyfeddol a choreograffi gwrthryfelgar yn cael eu gwau i mewn i dreftadaeth, straeon gwerin a dirgelwch. Fe’i hysbrydolwyd gan fyd chwedloniaeth o Gymru ac mae wedi’i gosod i gerddoriaeth newydd gan chwaraewr y delyn deires o Gymru, Cerys Hafana.

Nos Iau 25 Medi, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

Safonol: £16
Dros 60: £14
Myfyriwr: £10
Dan 18: £8

Disgrifiad sain wedi ei recordio ymlaen llaw ar gael

Sgwrs ar ôl sioe gyda dehongliad BSL gan Lauren Jade (cyn-ddawnswraig)