Cartref > Digwyddiadur > Julie Fowlis
Gwybodaeth
‘If snow could sing, it would sing like Julie Fowlis…’
…dyma sut y disgrifiodd yr awdur natur o fri, Robert Macfarlane, ei llais Gogleddol pur. Mae’r gantores arobryn Julie Fowlis yn hanu’n wreiddiol o’r Ynysoedd Heledd Allanol ac mae bellach wedi ymsefydlu yn Ucheldiroedd yr Alban. Mae’r ynysoedd hynny lle cafodd ei magu ynghyd â thirweddau’r Ucheldiroedd lle mae’n byw bellach wedi bod yn ddylanwad mawr ar ei cherddoriaeth.
Hi oedd Cerddor y Flwyddyn yng Ngwobrau Cerddoriaeth Traddodiadol yr Alban 2023, a chyda gyrfa sydd wedi ymestyn dros sawl albwm stiwdio a nifer o gydweithrediadau proffil uchel, mae ei llais ‘meddwol’ sydd ‘fel grisial’ wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y byd.
Bydd yn cael ei hadnabod am byth am ganu caneuon thema 'Brave', sef ffilm animeiddiedig Pixar Disney, a enillodd wobrau yn yr Oscars, a Golden Globe a BAFTA, ac sydd wedi'i lleoli amser maith yn ôl yn ucheldiroedd yr Alban. Cyrhaeddodd un o'r caneuon hyn y rhestr hir am osgar yn 2013. Daeth Julie i’r brig yng nghystadleuaeth Canwr Gwerin y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2, ac mae wedi serennu ar lwyfannau ledled y byd, o neuaddau pentref yn Ucheldiroedd yr Alban i Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd, Neuadd Gyngerdd Mozart yn Fienna, y Philharmonie de Paris, Shakespeare’s Globe yn Llundain a Gŵyl Cerddoriaeth Gysegredig y Byd yn Fez, Moroco. Mae hi wedi cydweithio â Cherddorfa Gyngerdd y BBC yn y Royal Albert Hall fel rhan o’r Proms, wedi canu’n fyw yn seremoni gloi Cwpan Ryder yn Chicago yn 2012 i gynulleidfa deledu o 500 miliwn, ac yn goron ar y cwbl bu’n canu’n fyw yn seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad Glasgow XX yn 2014, i gynulleidfa deledu o dros 1 biliwn. Mae ei llais wedi cael ei ffrydio ar lwyfan Spotify dros 200 miliwn o weithiau, ac wedi cael ei glywed yn y gofod ar restr chwarae swyddogol gofodwr NASA. Mae ganddi hyd yn oed flodyn lili sydd wedi'i enwi ar ei hôl.
Hi oedd hyfforddwraig lleisiol yr Eric Whitacre Singers fel rhan o Animeiddiad Dreamworks 'How To Train Your Dragon 3: The New World’ (Cressida Cowell, sgôr gan John Powell) yn Abbey Road Studios, Llundain yn 2018. Mae hi hefyd yn artist a chanddi chwilfrydedd gwirioneddol a gallu i groesi drosodd, ac mae’n canu ac yn recordio mewn ieithoedd eraill yn rheolaidd. Ar hyn o bryd mae hi'n perfformio ac yn recordio gyda'r uwch-grŵp gwerin Spell Songs. Mae’n gydweithwraig wrth reddf ac wedi perfformio gydag artistiaid megis James Taylor, KT Tunstall, Chris Thile, Graham Coxon, Bill Whelan (Riverdance), y ddeuawd electronica Valtos, Tommy Smith a Cherddorfa Jazz yr Alban, Nicola Benedetti, Cerddorfa Symffoni’r Alban a Mary Chapin Carpenter. Ar 5 Mehefin 2024 hi ddaeth â choffadwriaeth swyddogol 80 mlwyddiant D-Day i ben yn Portsmouth gyda pherfformiad teledu, wedi ei ddarlledu’n fyw gan y BBC, o The Parting Glass gyda cherddorfa lawn a sioe goleuadau dronau wefreiddiol.
Mae yn gyflwynydd rheolaidd ar deledu a radio, mae hi hefyd yn artist llais y mae galw mawr amdani, ac yn ddiweddar bu’n gweithio ar lyfr llafar Penguin o The Lost Spells ac ar y ffilm hypnotig ‘Upstream’ (Robert Macfarlane, Rob Petit a’r cyfansoddwr Hauska sydd wedi’i enwebu am Oscar) a gweithiodd ar y gêm fideo hynod lwyddiannus Assassin’s Creed Valhalla, gyda’r cyfansoddwr enwog o Norwy, Einar Selvik.
Hi oedd 'Tosgaire na Gàidhlig' gyntaf yr Alban, sef Llysgennad Cenedlaethol yr Iaith Gaeleg, anrhydedd a roddwyd iddi gan Lywodraeth yr Alban, ac yn ogystal â'i gradd BA a’i gradd Meistr mae ganddi Ddoethuriaeth er Anrhydedd mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Robert Gordon, Aberdeen. Yn 2023 hi oedd derbynnydd Cymrodoriaeth Sàr Ghàidheal, sef gwobr sy’n cydnabod cyfraniad eithriadol i ddiwylliant Gaeleg yng ngholeg Gaeleg Cenedlaethol yr Alban, Sabhal Mòr Ostaig.
Julie yw llais Gaeleg yr Alban Project Datganiad Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig, sydd â’r nod o recordio’r datganiad ym mhob iaith yn y byd. O Abkhaz i Zulu, mae'r datganiad wedi'i recordio mewn 529 o ieithoedd hyd yn hyn. !
Nos Sadwrn 1 Tachwedd
7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£27.50