Cartref > Digwyddiadur > Guy Davis
Gwybodaeth
Mae Guy Davis, llysgennad y ‘Blues’, wedi cael ei enwebu ddwywaith yn olynol am wobr Grammy, wedi derbyn Gwobr "Keeping the Blues Alive" y ‘Blues Foundation’ mewn Theatr, ac mae ganddo dros ddau ddwsin o enwebiadau Gwobr Cerddoriaeth y Blues am yr Artist Blues Acwstig Gorau, y Gân Orau, ac Albwm Acwstig Gorau'r Flwyddyn. Yn ddiweddar mae wedi ychwanegu Cyfansoddwr Broadway at ei CV, gan sgorio'r gerddoriaeth achlysurol ar gyfer adfywiad drama ei ddiweddar dad Ossie Davis, "Purlie Victorious".
Mae artistiaid fel Blind Willie McTell a Big Bill Broonzy wedi dylanwadu ar adrodd straeon cerddorol Davis, ac mae ei gerddoriaeth wedi’i dylanwadu gan artistiaid mor amrywiol â Lightnin' Hopkins a Babatunde Olatunji, a thechnegau harmonica gan Sonny Terry, yn fwyaf nodedig.
Ei albwm diweddaraf yw "The Legend of Sugarbelly", dilyniant i "Be Ready When I Call You", sydd, fel yr albwm cyn hynny, "Sonny & Brownie’s Last Train – A Look Back at Brownie McGhee and Sonny Terry”, wedi cael ei enwebu am Wobr Grammy am yr Albwm Blues Traddodiadol Gorau. Daw rhai o ganeuon "The Legend of Sugarbelly" o ddrama y mae Guy wedi bod yn ei datblygu, ac mae'n cynnwys y gân llawn emosiwn, "Early In the Morning", a ysgrifennwyd yn ystod dyddiau tywyllaf Covid.
Mae Guy wedi rhyddhau 15 albwm ac wedi ymddangos ar ddwsinau o albymau a chasgliadau teyrnged. Mae ei yrfa wedi cynnwys gwaith fel actor Broadway, ffilm a theledu, prif actor oddi ar Broadway, awdur, athro cerddoriaeth, perfformiwr plant, ac wrth gwrs artist Americana Blues.
Nos Wener 24 Ebrill, 7.30pm
Stiwdio
£20
