Cartref > Digwyddiadur > Eryri Arswydus
Gwybodaeth
I ddathlu 50 mlynedd ers i Shadrach a phlant Gruglon greu helynt yn ne Cymru wledig, mae Storiel, ar y cyd â Pontio a Gŵyl Arswyd Abertoir, yn cyflwyno digwyddiad arbennig gyda’r cyfarwyddwr Wil Aaron, un o sylfaenwyr cyntaf Bwrdd Ffilm Cymru.
Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda sgwrs gan Wil Aaron, dan gadeiryddiaeth Nia Edwards-Behi (cyd-sylfaenydd Abertoir), yn trafod creu ffilmiau arswyd cyntaf Cymru yn Storiel Bangor am 2.00pm. Sgwrs yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i’r Saesneg.
Yn dilyn hynny, dangosiad dwbl yn Sinema Pontio:
4.30pm - Gwaed ar y Sêr (1975) gyda sgôr fyw newydd gan Don Leisure
6pm - O’r Ddaear Hen (1981)
Gyda diolch i Matchbox Cine, Pontio, a chyllid drwy Gronfa Fusion Llywodraeth Cymru.
180 mins
P'nawn Sadwrn 25 Hydref, 2pm
AM DDIM