Cartref > Digwyddiadur > Effi o Blaenau (15) - Rhagddangosiad a sesiwn holi ac ateb
Gwybodaeth
Cymraeg gydag is-deitlau Saesneg
Mae Pontio yn falch o gynnal rhagddangosiad arbennig o'r ffilm Gymraeg Effi o Blaenau, a ddilynnir gan sesiwn holi ac ateb gyda'r cyfarwyddwr Marc Evans (Mr Burton, House of America, Patagonia), mewn partneriaeth â Met Film Distribution. Cynhelir y sesiwn holi ac ateb yn y Gymraeg gyda chyfieithiad Saesneg byw, ar ôl y dangosiad am 8:30pm.
Yn seiliedig ar fonodrama clodwiw Gary Owen, Iphigenia in Splott, mae Effi o Blaenau yn addasiad sinematig gan Marc Evans wedi’i osod yng Ngogledd Cymru. Mae Effi (Leisa Gwenllian) yn ysu am gael dianc o’i thref enedigol a daw llygedyn o obaith pan fydd hi'n cwrdd â Lee, milwr wedi'i anafu. Pan fydd realiti’n taro, mae hi’n wynebu bywyd fel darpar fam sengl, ddi-waith, gan amlygu argyfwng cymdeithasol llym gyda phrinder wardiau mamolaeth a bydwragedd. Mae Leisa Gwenllian yn rhoi perfformiad pwerus fel Effi.
Marc Evans, 2026, 90 munud
Leisa Gwenllian, Tom Rhys Harries, Owen Alun, Nel Rhys Lewis, Mared Llywelyn, Sion Eifon
Nos Iau 18 Mehefin, 7pm
(cliciwch yma am fwy o ddangosiadau)
Safonol: £8.50
Dros 60: £7.50
Myfyriwr / Dan 18: £6.50
