Photo of a man standing in front of a small stage with flowers thrown all over the stage

WNO: The Anonymous Lover

Cartref > Digwyddiadur > WNO: The Anonymous Lover

Gwybodaeth


The Anonymous Lover
Joseph Bologne neu Le Chevalier Du Sant George

Yn chwareus, ffraeth a chwbl swynol, mae The Anonymous Lover yn gomedi ramantus ddisglair ynglŷn â'r risgiau a'r gwobrau o syrthio mewn cariad.

Mae Léontine, gwraig weddw gyfoethog, yn addo na fydd hi byth yn caru eto ar ôl priodas anhapus. Pan mae llythyrau dirgel ac anrhegion meddylgar yn dechrau cyrraedd gan edmygwr cudd, mae ei phenderfyniad yn dechrau troi. Valocur, ei ffrind, sy’n anfon y pethau hyn ati ac mae’n cuddio pwy ydyw oherwydd ei fod yn ofni cael ei wrthod gan fod ganddo statws is mewn cymdeithas. Wrth i Léontine geisio'r gwir, mae’n rhaid i Valcour benderfynu a yw’n datgelu ei hun neu a yw’n parhau’n anhysbys.

Nid yw The Anonymous Lover yn cael ei pherfformio’n aml a dyma’r unig opera sydd wedi goroesi gan y cyfansoddwr o Ffrainc, Joseph Bologne, ac mae’n dod yn fwy mewn cynhyrchiad newydd, bywiog, gyda’r gerddorfa ar y llwyfan mewn byd llawn egni, yn seiliedig ar faróc. Gan gadw’n driw i sgôr gain Bologne, mae hefyd yn cyflwyno llais newydd, cyfoes sy’n siarad yn uniongyrchol â’r gynulleidfa - mae’n eich gwahodd i ail-edrych, i feddwl yn wahanol, ac i benderfynu drosoch ei hun beth sy’n llywio’r ffordd rydym yn profi celf wych.

https://wno.org.uk/cy/anonlove...;

Testun newydd gan Tife Kusoro
Arweinydd Frederick Brown
Goruchwyliwr Cerddoriaeth Laurence Cumings
Cyfarwyddwr Omar Elerian
Leontine Nardus Williams

Nos Wener 9 Ebrill 2027, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

Safonol / Dros 60: £28
Dan 16: £10

Ffrangeg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg. 

Dwy awr ac ugain munud o hyd yn cynnwys un egwyl