Cartref > Amdanom > Projectau a Newyddion > Un Seren, Bangor

Un Seren, Bangor


Pontio a Chyngor Dinas Bangor yn cyflwyno Un Seren, Bangor

Elise Jones
Alys Williams
Delwyn Sion
Steffan Rhys Williams
Sain + PRS
Celfyddydau Pontio
Cyngor Dinas Bangor
Dewi Fôn Jones

Dros y gaeaf yn 2020 fe wnaethom ni yma'n Pontio, ar y cyd â Chyngor Dinas Bangor, gydweithio ar ffilm Nadolig sy’n dathlu Bangor. Derbynwyd cyfraniadau gan llu o fusnesau, sefydliadau, cymunedau a chwmnïoedd ym Mangor.

Ar brynhawn glawog ym Mangor Uchaf ym 1982, ysgrifennodd y canwr a’r cyfansoddwr Delwyn Siôn, Un Seren, sydd bellach yn un o hoff ganeuon Nadolig yma yng Nghymru. Ymddangosodd Alys Williams (sy’n wyres i Wilber Lloyd Roberts – un o sefydlwyr theatr iaith-Gymraeg Bangor) ar ein sgriniau pan aeth ar raglen The Voice nôl yn 2013, ac ers hynny mae ei gyrfa wedi mynd o nerth i nerth. Yn 2015, perfformiodd drefniant Steffan Rhys Williams o Un Seren. Eleni, fe weithiodd Alys gydag Elise Jones, cantores o Fangor, i ddod â’r gymuned ynghyd i ddathlu Nadolig sy’n wahanol iawn inni gyd, ac i orffen 2020 ar nodyn uchel!

Roedd Elise yn aelod o BLAS (gweithdai drama Pontio) pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Glancegin yn ôl yn 2013. Dros y blynyddoedd mae Elise wedi cymryd rhan mewn sawl project gyda ni, ac yn 2018, perfformiodd yn ein Stiwdio Theatr am y tro cyntaf ym mhroject Lleisiau Voices. Gydag anogaeth rai o staff Pontio, derbyniodd Elise wersi canu – mae ei hyder a’i thalent wedi datblygu.

Wrth greu y ffilm hon, dilynwyd rheolau pellter cymdeithasol a chadw at ganllawiau’r Llywodraeth. 

Gyda diolch i’r holl gyfranogwyr :

Trafnidiaeth i Gymru Bangor
Arriva Bangor
Cadeirlan Bangor
Llyfrgell Bangor
Castell Penrhyn
Coed Nadolig Gwynedd
Tîm Plismona Cymdogaeth Caernarfon /Bangor a’r Cylch
Maes-G Showzone
Cartref Plas Hedd
Celfyddydau Pontio
Tai Gogledd Cymru St Mary's
Sefydliad Confucius Bangor 圣诞快乐
Blas, Pontio

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
BBC Radio Cymru Bangor
Radio Ysbyty Gwynedd
Vallas
Elias Garage
Blue Sky
Wynne Roberts (Elvis Cymraeg, Chaplain Ysbyty Gwynedd a Chyflwynydd Radio Ysbyty Gwynedd) Storiel
Lle Gwallt
Tafarn Y Glôb
Antoniazzi's - Penguin Café
Kyffin
Ysbyty Gwynedd

Canolfan Siopa Deiniol
Bangor Independent School
Viridian
Lookachu
Anedd Ni
Stich and Bitch
Yannick Hammer a Sgrialwyr Bangor
Soup squad Maes G
Ysgol Hirael
Garden Hotel and Cantonese Restaurant
Dark Side of the Bloom
Coleg Menai
Codi'r Tô

Pob project ac eitmau newyddion