Cartref > Amdanom > Projectau a Newyddion > Triongl
Triongl
Wedi’i guradu gan Griff Lynch
Mae TRIONGL yn gyfanwaith a gafodd ei greu a’i ddatblygu yn ystod y Cyfnod Clo a chyfnod y pandemig. Bwriad TRIONGL oedd cynnig prosiectau i weithwyr llawrydd yn ystod y cyfnod heriol hwn, cyfnod sydd wedi gweld ein theatrau a lleoliadau celfyddydol ar gau am fisoedd a chyda nifer fawr o bobl yn colli gwaith dros nos. Er bod drysau Pontio yn dal i fod ar gau i’r cyhoedd rydym yn awyddus i gefnogi gweithwyr llawrydd y sector gelfyddydol cymaint ag y gallwn a chreu gwaith digidol newydd i'n cynulleidfaoedd. Mae ffrwyth gwaith TRIONGL bellach yn barod i’w gyflwyno ichi dros y misoedd nesaf.
Mae tri phroject digidol i Triongl sy’n cynnwys amrywiaeth o gyfryngau, gydag artistiaid o bob math yn cydweithio gyda’i gilydd.
Artistiaid
Casi Wyn
Owain Roberts
Seindorf
Lena Jeanne
Iestyn Tyne
Ciara Ní É
Caryl Bryn
Annes Glyn
Zoë Skoulding
Rhys Trimble
Mari Elen
Glyn F. Edwards
Yasus Afari
Róisín Sheehy
Sian Miriam
Morwen Bosschot
Marged Elen Williams
Catrin Menai
Lowri Hedd
Junko Mori
Simmy Singh
Kristina Banholzer
Sian Angharad
Casi x Seindorf
Cerddoriaeth
Mae Casi Wyn, yn wreiddiol o Fangor yn ymuno â Seindorf sy’n tarddu o draddodiadau bandiau pres dalgylch Eryri ac yn cyfuno arddulliau i gyflwyno profiad egnïol a chofiadwy. Daw at ei gilydd i ddod â chân wreiddiol ichi a gyfansoddwyd gan Casi ac Owain ar ffurf fidio miwsig a gyfarwyddwyd gan Griff Lynch, sy’n eich tywys i Theatr Bryn Terfel yn Pontio. Rhyddhawyd y fidio miwsig ar LWP S4C dros y Nadolig, gyda Casi yn tywys y gwylwyr i Theatr Bryn Terfel, Pontio. Mawr obeithio y cawn eich tywys yno’n fuan iawn eto ....
Lena x Iestyn x Beirdd Amrywiol
Ffotgraffiaeth a Barddoniaeth
Lena Jeanne, Iestyn Tyne, Ciara Ní É, Caryl Bryn, Annes Glynn, Zoë Skoulding, Rhys Trimble, Mari Elen, Glyn F. Edwards, Yasus Afari, Róisín Sheehy, Sian Miriam, Morwen Brosschot, Marged Elen Wiliams, Catrin Menai, Lowri Hedd a Simmy Singh
Mae Lena Jeanne yn photograffydd ffilm sy’n archwilio themau megis natur, benyweidd-dra a ac ysbrydolrwydd. Cawn gyfres o luniau a dynnwyd yn ystod y Cyfnod Clo sydd â naws hudolus, prydferth, gonest a bregus iddynt. Daeth y bardd a’r llenor, Iestyn Tyne, â llu o feirdd at ei gilydd er mwyn ymateb i luniau Lena a hynny yn y Gymraeg, Saesneg a’r Wyddeleg
Rhyddhawyd tri o'r cerddi ar Sianel Pontio ar wefan ac ap AM ar ffurf fidio gyda cherddoriaeth cefndirol gan Simmy Singh, ar Dydd Llun 8 Mawrth sef Diwrnod Rhyngwladol y Merched.
Instagram: @pontio_bangor
Twitter Cymraeg: @trydarpontio
Twitter Saesneg: @pontiotweets
Facebook: facebook.com/PontioBangor
Dilynwch sianel Pontio ar AM: amam.cymru/pontio
Junko x Kristina x Sïan x Simmy
Celf
Mae’r artist byd-enwog, Junko Mori, sy’n wreiddiol o Siapan, ond sydd bellach yn byw yn Nhudweiliog, wedi ymuno â’r ffotograffydd Kristina Banholzer, animeiddiwr Sïan Angharad, a’r feiolynydd a chyfansoddwr Simmy Singh i gyflwyno fidio byr ar broses gweithio Junko.
Wedi’i ffilmio yn Shed, Y Felinheli ac yn Stiwdio Junko Mori yn Nhudweiliog, gan Kristina a Sïan, mae’r fidio hon yn dangos proses dyfrlliw a phroses gofaniad Junko, gyda’r gerddoriaeth, a gyfansoddwyd gan Simmy Singh, yn cynnwys synnau morthwylio gan Junko ei hun ac yn cyfleu natur ailadroddus ei gwaith. Mae’r cyfan yn creu fidio hynod arbennig ac unigryw.
Rhyddhawyd y fidio ar Ddiwrnod Rhyngwladol Celf ar YouTube ac ar wefan ac ap AM amam.cymru/pontio, gwyliwch y fidio isod!
