Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > Yr Hyn Sy’n Pylu
Yr Hyn Sy’n Pylu


Rebecca F Hardy
10.11.23 – 7.1.2024
Artist aml-ddisgyblaethol o Fethesda yw Rebecca F Hardy. Mae’r corff newydd hwn o waith celf yn cyflwyno haenau cynnil a datganiadau cryf o liw a ffurf, gan amrywio o luniau a phrintiadau sgrîn, i waith fideo a 3D.
Mae’r ffurfiau haniaethol sy’n ymddangos yn ei gwaith yn deillio o’i hastudiaeth a’i dealltwriaeth bersonol o’i hymenydd dyslecsig. Drwy broses greadigol unigryw, mae hi’n archwilio deunyddiau a’r berthynas rhwng arwyneb, gwrthrych, lliw, haenau a phatrymau, gan chwarae’n gyson gyda’r cydbwysedd rhwng dim digon a gormod, a’r hyn sy’n bleserus yn weledol ac yn llanast llwyr.

YR HYN SY’N PYLU
SCARED OF TEXT, OF THE LACK OF MY VOCABULARY. ONE WORD INFRONT OF THE OTHER.
ANXIETY OF SAYING THE WRONG TREIGLO
OR MISPLACING MY MALE AND FEMALE NOUNS.
WYT TI MEDDWL MEWN GYMRAEG NEU SAESNEG?
I SEE THINGS GWELEDOL, SYMBOLS AND PATTERNS. I DIDN’T REALISE THIS UNTILL THIS YEAR, THAT MY BRAIN 🧠 HAD A WAY OF FILLING THE GAPS. ADDING LETTERS AND VISUALS SUBCONSCIOUSLY. PLACING WORDS IN MY MOUTH WHILE MY BRAIN VISUALLY SEES SOMETHING ELSE.
TABLE INSTEAD OF CABINET
LEFT INSTEAD OF DDE
A N T R E F N U S
———
I FILLED THE SILENCE AS A KID.
I WILL ALWAYS BE TOO MUCH FOR SOME YET TOO QUIET FOR OTHERS.
OR NOT PROFFESIYNOL
I WISH I COULD WRITE BARDDONIAETH PROPERLY LIKE CYNGHANEDDS.

———
P U S H
PUSHING MY ABILITY TO BALANCE EVERYTHING
PUSHING TILL I REACH THE EDGES, PICKING AT THE CRACKS UNTILL ….
PAM ATH NEB DEUD WRTHAI
PAM ATH NEB EGLURO
PAM BOD POPETH MOR ANODD
POOOOOOPPPEEEEETH
“TI’N AMAZING, TI’N SUPERWOMAN, TI BYTH YN STOPIO?” DWI BYTH YN GWRANDO
———

WEL EFALLE MA BREN I YN GWEITHIO YN GWAHANOL I UN TI. EFALLE MAE PETHAU UNDIAGNOSED GENAI, OND GAS GEN I Y BUZZ WORDS!
MUST BE AMYNEDDGAR
AAAAAAMYNEDDDDDDDGAR
OVER-THINKING
OVER-STIMULATED
OVER-SHARING
OVER
EMPATH
DWI ANGEN LLONYDD
DWI ANGEN LLONYDDWCH