Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > Pobl Fel Ni
Pobl Fel Ni
POBL FEL NI
Storïau wedi’u Pwytho
3 Chwefror - 15 Mawrth
Arddangosfa o ‘straeon wedi’u pwytho’ gan Rwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN) yn cyfuno ffilmiau byr, ffabrigau, ffotograffau ac arteffactau sy’n dangos sut mae diwylliannau gwahanol wedi eu plethu dros amser i greu’r tapestri bywiog sy’n rhan o ddiwylliant Cymru heddiw.
Crëwyd y storïau mynegiannol hyn wedi’u pwytho gan unigolion a grwpiau ledled Gogledd Cymru dan arweiniad yr ymarferydd creadigol Suzette Smart. Y gobaith yw mai dim ond y dechrau yw hyn ac y gallwn estyn allan yn y dyfodol at y grwpiau niferus nad ydynt wedi’u cynrychioli yma.
Mae’r storïau nodedig hyn sydd wedi’u pwytho yn mynegi profiadau bywyd, treftadaeth ddiwylliannol ac emosiynau unigolion. Wrth gynllunio’r gweithdai, paratowyd cyfres o ffabrigau wedi’u gwehyddu mewn lliwiau tawel i’w defnyddio fel y cefndir ar gyfer y collages. Cafodd ystod eang o ffabrigau eu cyrchu a’u dewis yn benodol er mwyn i grwpiau unigol weithio gyda hwy. Dewiswyd y lliwiau a’r patrymau oherwydd eu cysylltiad â threftadaeth, ethnigrwydd a diwylliannau’r grŵp hwnnw. Roedd y deunyddiau yn newydd ac wedi’u hail-bwrpasu. Roedd y briff a roddwyd i bob grŵp yn awgrymu mewnbwn a allai gynnwys ffabrigau personol, gwybodaeth wedi’i hargraffu a ffotograffau.
Aeth Suzette ati i baratoi samplau o’i stori ei hun ar ffurf collage er mwyn ysbrydoli’r cyfranogwyr a dangos y posibiliadau wrth ddefnyddio’r deunyddiau. Roedd y samplau yn dangos llawer o syniadau wedi’u pwytho hefyd. Cafwyd arddangosiadau ar hyd y diwrnod a oedd yn dangos sut i greu collage a phwytho syniadau.
Roedd natur greadigol a gofalgar y prosesau hyn yn galluogi i broses adrodd stori naturiol ddatblygu ar ffurfiau darluniadol ac ysgrifenedig. Mae’r cynnwys yn cael ei wehyddu gyda’i gilydd i gyflwyno ciplun o hanesion a diwylliannau amrywiol Pobl Fel Ni / People Like Us yng Ngogledd Cymru.
