Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > Llygad y Lleuad

Llygad y Lleuad


poster ar gyfer digwyddiad Llygad y Lleuad

Ffilmiau animeiddiedig a ysbrydolwyd gan nofel Caradog Prichard Un Nos Ola Leuad

Gosodiad gan yr artist Jo Lawrence mewn cydweithrediad ag Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio Prifysgol Bangor.

Lleoliad: Wal Wen (lefel 2)
Dyddiad: 5 Rhagfyr – 16 Ionawr
Lansiad gyda pherfformiad byw: Sul 5 Rhagfyr, 5.30pm
Nid oes angen tocyn i'r digwyddiad hwn

Ysbrydolwyd y gosodiad hwn, a arddangosir ym mhrif atriwm Pontio, gan nofel eiconig Caradog Prichard, ‘Un Nos Ola Leuad’, sy’n drigain mlwydd oed eleni. Mae’n cynnwys ffilmiau animeiddiedig a grëwyd gan Jo Lawrence a sgôr wreiddiol gan y myfyriwr ôl-radd Tomasz Edwards.

Yn y gwaith fe welwn fyd wedi’i bolareiddio yn ymagor, byd lle mae’r mynyddoedd yn ymrannu i ddatgelu ac adlewyrchu pentref Bethesda, lle o oleuni a chysgodion, angylion a gwyrthiau. Mae’r sgôr hypnotig wedi’i atalnodi gan leisiau rhythmig y pentrefwyr yn datgan eu henwau dros y dyffryn yng ngolau’r lleuad.

I lansio’r gosodiad, bydd perfformiad offerynol byw o gyfansoddiad Tomasz Edwards yn Pontio ar y 5ed o Rhagfyr, fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Cefnogir y project yn hael gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

Jo Lawrence portrait

Jo Lawrence

Mae Jo Lawrence yn artist a gwneuthurwr ffilm sy’n cyfuno amryw o gyfryngau megis collage, ffilm, pypedwaith ac animeiddio. Mae ei ffilmiau wedi’i darlledu a’u dangos yn helaeth mewn galerïau ac mewn gwyliau ffilm rhyngwladol. Drwy breswyliadau yn V&A (Llundain), National Media Museum (Bradford), Four Corners Gallery (Llundain) a Lightworks (Blackpool) a chomisiynau gan Channel 4, Tate Britain ac Animate Projects, mae Jo wedi gallu datblygu arddull bersonol tu hwnt.

Tomasz Edwards portrait

Tomasz Edwards

Mae Tomasz C. Edwards yn gyfansoddwr i’r cyfryngau ac wedi graddio’n ddiweddar o Brifysgol Bangor. Dechreuodd ei yrfa gerddorol yn ei arddegau wrth iddo berfformio ar y stryd ym Marchnad Camden. Tra’n astudio, mae wedi cyflwyno gweithiau clodfawr i e-lyfrau, gemau fidio a ffilmiau. Mae’n parhau i weithio ar sawl project gyda gofynion arddull eang, ac mae ei lais yn parhau i ddatblygu drwy syniadau newydd ac arbrofi.

Ensemble Llygad y Lleuad 1170

Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor

Sefydlwyd Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor yn 2011 gyda’r amcanion o hyrwyddo cerddoriaeth cyfansoddwr byw ac o’r 20fed Ganrif, gan gydweithio’n agos gyda Gŵyl Gerdd Bangor. Fel cyd-chwaraewyr hyblyg, mae’n cynnwys offeryniaeth amrywiol gan gael ei redeg ar y cyd gan staff a myfyrwyr yr Adran Gerddoriaeth, Drama a Pherfformio. Cafwyd perfformiadau llwyddiannus o gyfansoddiadau myfyrwyr dan y thema Iechyd a Lles yn ystod Gŵyl Gerdd Bangor 2020.

Pob arddangosfeydd