Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > Hybrid – Osian Efnisien
Hybrid – Osian Efnisien

HYBRID gan Osian Efnisien

Osian Efnisien
Mae Osian Efnisien yn arlunydd a dylunydd Cymreig o Borthmadog sydd wedi ennill sawl gwobr yn y maes animeiddio. Ar ôl astudio Celf Gain ym Mhrifysgol De Montford, aeth ymlaen i gyfrannu i'r diwylliant celf stryd cynnar yn y DU, gan gynhyrchu ymgyrchoedd hysbysebu swrealaidd a gosodiadau stryd ar hap.
Ers hynny mae Osian wedi canolbwyntio ar archwilio’r ffiniau rhwng celf gain, ffasiwn, animeiddio, a dylunio, gan gynhyrchu gweithiau beiddgar a chwareus yn aml gyda naratifau abswrdaidd unigryw. Mae'n ymhyfrydu ar greu sefyllfaoedd afresymol sy'n herio'r drefn arferol. .