Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > Cymru yn Ewrop
Cymru yn Ewrop

Arddangosfa 12 Tachwedd – 22 Rhagfyr
Yn dilyn llwyddiant prosiect ffilmiau byrion ‘Cymru yn Ewrop’ yn ystod y cyfnod clo, dyma arddangosfa yng ngofodau cyhoeddus Pontio gan artistiaid o Gymru sy'n byw a gweithio ledled Ewrop. Yn ogystal â chynnig platfform i artistiaid cyffrous, gan roi cipolwg ar eu bywyd a'u gwaith y tu hwnt i'r DU, mae'r prosiect yn meithrin cysylltiadau diwylliannol ac yn dathlu'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig ar y llwyfan Ewropeaidd. Mae’n brosiect hir-dymor yma’n Pontio.
Artistiaid hyd yn hyn:
Freya Dooley, Steven Emmanuel, Owain Griffiths, Gethin Wyn Jones a Hannah M Morris
Mwy am yr artistiaid:

FREYA DOOLEY
Freya Dooley oedd Cymrawd Cymru Greadigol 2021 yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain. Mae ei hymarfer creadigol yn cynnwys ysgrifennu, sain, delwedd symudol, gosod a pherfformio. Yn y lansiad bydd hi’n cyflwyno’r ffilm ‘A Certain Way of Feeling Something’, â ddatblygwyd yn ystod ei phreswyliad yn Rhufain, a bydd ei ffilm ‘Song for a Congregation’ ar-ddangos yn ystod gweddill yr arddangosfa.
Darnau:
A Certain Way of Feeling Something, 2021-22
Ffilm HD sianel sengl gyda sain stereo ac isdeitlau Saesneg, 16munud
Gan gymryd ei theitl o ddyfyniad gan Pier Paolo Pasolini a chyfuno sgôr gerddorol wreiddiol â chasgliad o luniau personol, mae ‘A Certain Way of Feeling Something’ yn fideo cerddoriaeth sy'n cyd-fynd â chwantau personol a gwleidyddol, lle mae cyrff yn disgyn i mewn ac allan o gydamser o fewn symudiad ar y cyd. Mwy yma: https://www.freyadooley.com/#/a-certain-way-of-feeling-something-film/
Song for a Congregation, 2022
Ffilm HD gyda sain stereo, 3m15s
Ffilm fer yn canolbwyntio ar y ‘Talking Statues of Rome’, a elwir hefyd yn ‘Congregation of Wits’. Mae’r grŵp hwn o gymeriadau carreg statig yn amsugno lleisiau dienw’r cyhoedd, gan weithredu fel safleoedd ar gyfer beirniadaeth wleidyddol a sefydliadol, gan gyfnewid clecs a newyddion â’i gilydd o’u corneli ar draws y ddinas. Ers yr 16eg Ganrif, mae'r holl gerfluniau yn sefyll mewn mannau cyhoeddus ac yn dal i fod yn gyfranogwyr gweithredol mewn trafodaethau gwleidyddol cyhoeddus heddiw.

STEVEN EMMANUEL
Artist o Gymru yw Steven Emmanuel sydd bellach yn byw yn Nürnberg, yr Almaen. Magwyd yn Towyn, gan astudio yn Ysgol Emrys ap Iwan yn Abergele. Yn 2000 gadawodd Gymru i ddilyn ei astudiaethau ym Mhrifysgol Brighton (2005) a'r Royal College of Art, Llundain (2010). Mi greodd y ffilm fer gyferbyn fel rhan o brosiect Cymru yn Ewrop yn ystod y cyfnod clo. Mae ei waith ar gyfer yr arddangosfa bresennol, 'Mae tristwch yn fy nghalon', a gyflwynir ar ffenestri blaen Pontio, yn mynegi teimlad personol o alar a thristwch ynghylch penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd.

GETHIN WYN JONES
Daw Gethin Wyn Jones o ardal Llanelwy yn wreiddiol, ac ar ôl astudio Celf Gain ym Mhrifysgol Bath Spa aeth yn ei flaen i Brifysgol Northumbria i wneud Gradd Meistr gan dreulio amser fel myfyriwr gwadd yn Kungl.Konsthgskolan, Stockholm yn 2015, a phenderfynu ymgartrefu yn Sweden.
Mae’r ffilm a greodd yn ystod y cyfnod clo yn cyfeirio at 'Empire' gan Andy Warhol o 1964. Yn lle'r Empire State Building yn Efrog Newydd, y canolbwynt yma yw arwydd neon Hagsätra wedi ei ffilmio o ystafell wely'r artist ar heuldro'r haf. Ardal amlddiwylliannol yn ne Stockholm yw Hagsätra, ac am flynyddoedd doedd yr arwydd ddim yn gweithio. Mi gafodd ei drwsio ac yn awr mae'n goleuo ac yn troelli unwaith eto dros y toeau.
Mae ei ffilm newydd, 'Magnetic', a ddangosir ar Wal Wen Pontio, yn seiliedig ar hysbyseb Guinness adnabyddus a recordiodd yn anfwriadol ar dâp VHS yn ei arddegau. Wedi ei ail-gyfansoddi a'i ail-olygu, mae'r hysbyseb yn datgelu lly o ddehongliadau o gwmpas gwrywdod a phrynwriaeth. Ysbrydolwyd yr hysbyseb yn wreiddiol gan waith celf yr artist Walter Crane, a chafodd ei gyfarwyddo gan Jonathan Glazer (Under the Skin).

HANNAH M MORRIS
Artist sy'n byw yn Leipzig, yr Almaen yw Hannah M Morris sy'n gweithio mewn print, darlunio a collage. Yn yr arddangosfa, mae ei darluniau llinell syml, chwareus wedi'u chwyddo'n fawr ar waliau Pontio, gan gynnwys dwylo a diferion dŵr tebyg i ddagrau. Meddai, "Mae bwlch yn bodoli rhwng bywyd yng Nghaerdydd a bywyd yn Leipzig. Mae bwlch hefyd rhwng fy hunan yn y gorffennol yng Nghymru, a fy hunan yn y dyfodol yng Nghymru. Bydd dwylo fy ngorffennol a fy nyfodol yn cysylltu un diwrnod yng Nghymru, ond ddim eto."
OWAIN GRIFFITHS
Mae Owain Griffiths yn artist sain, cynhyrchydd a cherddor sy'n byw yn Leipzig, yr Almaen. Ar gyfer yr arddangosfa mae wedi creu darn sain, a recordiwyd yng nghanol ddinas Leipzig, yn archwilio llifedd a symudiad wrth deithio o’r stryd fawr i’r orsaf drennau. Mae'n gerdyn post clywedol o’r Almaen i Gymru, porth sy'n pontio Leipzig a Bangor, gan ddefnyddio cyfrwng sydd ddim yn mynnu stamp.
www.instagram.com/owaingriffiths_/
Cydweithiodd Hannah ac Owain ar y ffilm fer gyferbyn yn ystod y cyfnod clo.