Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > Codi Pais Codi Pontydd

Codi Pais Codi Pontydd


Codi Pais Header Gwefan

Dyma broject cydweithredol, cyffrous sy’n cyfuno celf, dawns a geiriau gan griw o ferched ifanc Codi Pais (Lowri Ifor, Casi Wyn a Manon Dafydd) a’r artistiaid Hannah a Jasmine Cash. Roedd cyfle i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai creadigol yn arwain at arddangosfa, cylchgrawn a gwahanol berfformiadau ym mannau cyhoeddus Pontio. Oherwydd Covid-19 roedd yn rhaid parhau gyda’r gweithdai ar-lein, gyda’r gweithiau a grëwyd yn arwain tuag at rhifyn nesaf Cylchgrawn Codi Pais ddiwedd Awst 2020.

Pan fydd Pontio yn ail-agor ei drysau y gobaith yw gallu arddangos yr holl waith bryd hynny! Darllenwch isod am hanes y gweithdai, pwy sy’n rhan o’r project a fidio gan Hannah Cash o’r gweithdai.

Gweithdai

Am 2.30pm, bob dydd Iau ym mis Gorffennaf 2020 cafwyd chyfres o weithdai ar-lein i ferched rhwng 16 a 25 oed drwy gyfrwng y Gymraeg. Wedi'i harwain gan Lowri, Casi, Manon, Hannah a Jasmine roedd gweithdai celf, dawns, 'sgwennu a golygu.

Gweithdy 1 - Gweithdy Celf - Collage gyda Manon Dafydd

Mae Manon Dafydd yn artist o’r Felinheli yng Ngogledd Cymru. Mae hi’n un o dair golygydd o’r llyfryn-gylchgrawn Codi Pais, lle mae hi hefyd yn gyfrifol am y gwaith dylunio. Gan ddefnyddio y sgiliau magwyd hi ar y cwrs Dylunio Graffeg yn Central Saint Martins, Llundain, ceisiau Manon greu cyfanwaith hardd a deniadol ar gyfer bob rhifyn, er mwyn dathlu creadigrwydd merched Cymru a merched Cymreig ar draws y byd.

Hoffai Manon arbrofi o fewn sawl cyfrwng. Mae hi’n hoff o greu darluniau syml o flodau gwyllt, gan ddefnyddio beiro dennau a phaent dyfrlliw. Bydd hi hefyd yn creu dipyn o waith collage, gan ailgylchu ffotograffau a thudalennau hen gylchgronnau, papurau newydd, pamffledi ac ati, i greu darnau celf o’r newydd.

Collage oedd prif ffocws y gweithdy celf. Efallai nid pawb fydd yn teimlo’n gwbl gyfforddus wrth greu ond y cred a’r gobaith yw fod collage yn le da i ddechrau. Yn hytrach na phoeni’n ormodol am y gwaith terfynol yn dilyn y gweithdy, rhoddodd Manon y cyfle i’r rhai a gymerodd ran i deimlo’n rhydd ac yn hyderus i arbrofi ac felly i fwynhau’r broses o greu.

Instagram: @mansiporffor

Gweithdy 2 - Gweithdy Dawns gyda Hannah a Jasmine Cash

Mae Hannah a Jasmine Cash yn gweithio fel artistiaid yng Ngogledd Cymru. Mae eu harfer cydweithredol yn archwilio mewn i’r berthynas rhwng lluniadu, coreograffi, cerflun a ffilm. Wrth edrych ar ffilm fel collage, maent yn ceisio ffurfio naratif haniaethol, sy’n archwilio mewn i'r berthynas gorfforol rhwng amgylcheddau, sefyllfaoedd a gweithredoedd gwahanol.

Mae'r ffilmiau yn cael eu harddangos ar gasgliadau sydd wedi'u ffurfio o ddeunyddiau diwydiannol a chynhyrchion màs i adeiladu amgylcheddau deniadol. Mae gofod chwareus yn cael ei ffurfio ar gyfer yr artist a'r gynulleidfa trwy archwilio'r ffiniau rhwng y corff, y deunydd a'r gofod o'i gwmpas.

Archwiliodd y gweithdy mewn i un ffordd o ddogfennu symudiad trwy ffilm neu ffotograffiaeth. Nid oedd angen unrhyw brofiad mewn dawns dim ond diddordeb mewn symud, ffilm, ffotograffiaeth neu arlunio. Trwy ddechrau gyda llinell barhaus dangosodd Hannah a Jasmine sut y gallwch greu dilyniant symud byr y gellir ei ddogfennu.

Instagram: @hannah_cash

Gweithdy 3 - Gweithdy 'sgwennu gyda Casi Wyn

Mae  Casi Wyn wrth ei bodd yn ysgrifennu ar ffurf cerddi, caneuon a straeon byrion ers cyn cof.  Yn ddiweddar mae ei diddordeb a’i hangerdd tuag at y gweledol a’r alawol yn plethu’n braf gyda’r ysfa i greu ffilmiau, daeth ei ffilm gyntaf “Robin Goch” gyda S4C a BBC Cymru allan y llynedd. Yn ddiweddaraf fe enwebwyd fideo gerddorol “Aderyn” ar gyfer seremoni wobreuo genedlaethol Animeiddio Prydain.

Cynhaliodd Casi sgwrs gyda Caryl Bryn, yn trafod ei chyfrol ‘Hwn yw’r llais, tybad’ – y gyfrol a enillodd gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020.

Gweithdy 4 - Gweithdy casglu a golygu gyda Lowri Ifor

Mae Lowri Ifor yn byw yn Nghaernarfon, ar ol cyfnodau o fyw a gweithio yn Rhydychen a Llundain. Bu’n gweithio fel athrawes ac fel golygydd llyfrau plant, ond mae bellach yn gweithio ym maes treftadaeth. Mae hi’n un o dair golygydd y llyfryn-gylchgrawn Codi Pais ac yn tueddu i ganolbwyntio ar y gwaith o brawfddarllen a golygu pob cyfrol. Fel rhan o’r tim, mae hi’n gweithio i greu llwyfan i greadigrwydd merched Cymru a chreu cyfanwaith deniadol a diddorol i bawb ei fwynhau.

Roedd y gweithdy olaf yn gyfle i bawb rannu a thrafod eu gwaith mewn gofod diogel a chefnogol, ac yn drafodaeth am y broses o olygu a churadu gwaith creadigol. Roedd croeso i gyfranogwyr ddod ac unrhyw waith gorffenedig neu waith sydd ar y gweill gyda nhw i’r sesiwn, neu ddod i wrando ar y sgwrs yn unig.

O’r gweithdai cafwyd rhifyn gan Codi Pais: Pontydd a chrewyd arddangosfa yng nghofodau cyhoeddus Pontio. Dyma ffilm fer sy'n eich tywys drwy’r arddangosfa am nad yw’n bosib i bobl ymweld â'r arddangosfa.

Pob arddangosfeydd