Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > Bywyd Hybrid Life
Bywyd Hybrid Life

7.10 - 5.11.2023
Mae Pontio’n falch iawn o gyflwyno’r arddangosfa hon, i gyd-fynd a Symposiwm IKT fis Hydref 2023.
Yng ngofodau cyhoeddus Pontio, archwilir y croestoriad aneglur rhwng ein bywydau cyfoes a thechnoleg trwy gyfres o weithiau celf gofodol, digidol a cherfluniol. Mae hyd yn oed y technolegau mwyaf datblygedig ac arloesol wedi’u gwreiddio mewn ffynonellau materol, ffisegol ac mae’r artistiaid yn cynnig safbwyntiau amrywiol ar y bywyd hybrid hwn ac yn archwilio’r tensiynau sy’n gynhenid yn ei ffurfiad.
Gyda diolch i IKT a Mostyn am y cyfle i gydweithio.
Mwy am IKT - https://www.iktsite.org/congress-2023
Yr Artistiaid

DAMATOSH
Cydweithrediad rhwng Guy Mayman a Paul R Jones yw DATAMOSH: safle o gloddio a chreu sy’n ail-fywiogi technoleg a gwybodaeth darfodedig. Ar gyfer Bywyd Hybrid, mae DATAMOSH yn cyflwyno casgliad o archif fideo helaeth a gwaith newydd a grëwyd yn benodol ar gyfer Symposiwm IKT: collage gofodol o wrthrychau, perfformiadau, delweddau a sain sy’n gweithredu fel dolen adborth sy’n dathlu ffurfiau hylifol, annisgwyl.

PAUL R JONES
Trwy ymchwil greadigol, mae Paul R Jones yn archwilio’r broses o drosglwyddo delweddau digidol o beiriannau gêm i gyfryngau analog, ac yn sbarduno ymholiadau ynglyn â materoldeb o fewn disgwrs ôl-ddigidol. Mae’r broses o greu delweddau hybrid fel hyn yn herio diffiniadau confensiynol o waith ffotograffig a fideo, gan ysgogi ailwerthusiad o’r cyfryngau hyn yn wyneb technoleg sy’n datblygu’n hynod o gyflym.

GWENBA
Ffilm fer gan yr artist Gwenba yw O’HYD[RA] sy’n seiliedig ar ddŵr, cof, amser a chylchoedd. Mae’n archwilio’r gallu i wella ac adfer ein ymdeimlad o’r hunan a sut i fodoli ar ôl colled.
Ers cenedlaethau mae ei theulu wedi eu dennu at draeth yng Ngorllewin Cymru fel man adfer. Mae’r naratif yn datblygu ochr yn ochr â chylch bywyd micro-organeb “anfarwol” o’r enw hydra, sef genws o organebau dŵr croyw bach sy’n adfywio ei gelloedd bob 20 diwrnod.

MARK EAGLEN
Artist sy’n archwilio’r berthynas rhwng celf, gwyddoniaeth, technoleg a natur yw Mark Eaglen. Yn seiliedig ar ei ymchwil, mae’n cyferbynu prosesau traddodiadol â thechnolegau newydd a datblygiadau mewn theori gwyddonol. Mae ei waith diweddar yn archwilio hybridau perfformiadol o brosesu cerfluniol, rhyngweithiol ac amser real. Mae ei waith fideo ‘Ewyn Cwantwm a’r Amrywiadau Scutoid’, sydd i’w weld yn yr arddangosfa, yn deillio o’i arbrofion yn y maes penodol hwn.

LAURA CAMERON
Trwy broses o grosio a ffeltio nodwydd, mae Laura yn creu cerfluniau meddal sy’n cyfleu ei diddordeb mewn anatomeg, hanes meddygol, iechyd y cyhoedd a’r byd naturiol. Mae hi’n troi pethau sydd fel arfer yn gudd neu’n ficrosgopig yn weladwy a bywiog, er mwyn cyfathrebu gwyddoniaeth mewn ffyrdd atyniadol a hygyrch. Mae hi’n mwynhau gwyrdroi’r disgwyliadau sy’n aml yn cyd-fynd â thecstilau, a’u cyflwyno fel man lle mae celf, gwyddoniaeth a straeon yn cwrdd.