Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > Arddangosfa Môr
Arddangosfa Môr

Arddangosfa 8 Mehefin – 7 Gorffennaf
Ar ddechrau’r flwyddyn, fe wnaethom rannu galwad agored am weithiau celf ar y thema ‘Môr’ i gyd-fynd â Diwrnod Cefnforoedd y Byd ar yr 8fed o Fehefin 2024.
Mae’r amser wedi dod, ac rydym wrth ein bodd yn cyflwyno’r arddangosfa hon mewn cydweithrediad ag Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor. Mae'n cyfuno ystod eang o safbwyntiau ar y môr drwy ffilmiau, printiau, paentiadau, cerfluniau, cerddi, ac arbrofion â deunyddiau. Mae'r darnau’n cynnwys safbwyntiau amgylcheddol a mwy-na-dynol, cyfeiriadau mytholegol a hanesyddol yn ogystal â darlleniadau dychmygol. O adar môr a chrancod i greigiau llithrig a morgloddiau, mae yna ddehongliadau bywiog o bynciau fel bioamrywiaeth, newid hinsawdd a byrhoedledd ein cynefinoedd arfordirol lleol.
I lansio’r arddangosfa a dathlu Diwrnod Cefnforoedd y Byd, bydd Pontio yn cynnal rhaglen ddifyr o ddigwyddiadau, gweithdai, dangosiadau a pherfformiadau ar ddydd Sadwrn 8fed Mehefin yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.
Bydd ein partneriaid yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion yno ar y diwrnod i rannu eu hymchwil morol, gan gynnwys eu prosiect cyfredol Môr Ni yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sy’n lansio eu strategaeth Llythrennedd Cefnfor. Bydd gweithdai creadigol cysylltiedig hefyd ar draws y ffordd yn Storiel.

Saturdays at Rotherslade (ladies cove), 2023, Vivian Ross-Smith
Artistiaid a chyfranogwyr:
Jess Balla, Angela Davies, Guto Davies, Kirsti Davies, Alex Duncan, Jane Evans, Catrin Gwilym, Sarah Holyfield, Helen Howlett, Hedydd Ioan, Mari Huws, Nader Kobo, Esyllt Lewis Montenegro Fisher, Aoife Muckian, Alison Neighbour, Clara Newman, Emyr Owen, Ben Powell, Meggan Lloyd Prys, Mared Rees, Vivian Ross-Smith, Criw Skye, Jonty Storey, Meic Watts, Iestyn Tyne, Zoë Skoulding

Aequus, 2022, Angela Davies
Rhaglen digwyddiadau - 8 Mehefin (am ddim)
Trwy’r dydd
Arddangosfa ‘Môr’ ar agor
Gyda phresenoldeb yr Ysgol Gwyddorau Eigion ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
10 – 11.30am
Gweithdy GWYMONA yn y Bocs Gwyn, Pontio
Dewch i ddysgu am fanteision gwymon, gan drochi eich traed mewn bath cynnes o wymon, blasu te mwynol a gwrando ar synau bywiog y môr. Gyda Angela Davies a Kirsti Davies.
11.30am – 1.30pm
Gweithdy Gyotaku (argraffu pysgod) gyda Jane Evans yn Storiel
Ewch i dudalen gwefan Storiel am fwy o wybodaeth ac archebu lle: https://www.storiel.cymru/whats-on/gyotaku-workshop-with-jane-evans/
11.30am – 2pm
Sesiwn galw heibio Frân Wen yn y Bocs Gwyn, Pontio
Gweithdy agored i bawb, fydd yn rhoi rhagolwg o fyd tanforol sioe nesaf Frân Wen, ‘Olion’ - chwedl gyfoes mewn tair rhan, wedi’i gyd-greu gyda pobl ifanc Gisda.
12pm – 2pm
Gweithdy celf gyda Criw Skye, Pontio
Cyfle i brintio a sgwrsio yn ymateb i argyfwng byd-eang ein moroedd.
2 – 3pm
Ffilmiau byr yn Sinema, Pontio
Ffilmiau gan Ben Powell, Mared Rees, Alison Neighbour ac Angela Davies.
3 – 4pm
Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau: perfformiad barddonol ‘Llanw a Thrai’ yn Sinema, Pontio
Gyda Iestyn Tyne, Zoë Skoulding, Juana Adcock, Adrian Fisher a Luna Montenegro.
4.30 – 5.30pm
Perfformiadau artistiaid, gofodau cyhoeddus Pontio
Gyda Vivian Ross-Smith, Esyllt Lewis a Hedydd Ioan.