The band smiling and holding their instruments with 'the Fureys' title above them

The Fureys - The Farewell Tour

Cartref > Digwyddiadur > The Fureys - The Farewell Tour

Gwybodaeth


Ar ôl 4 perfformiad blaenorol bydd THE FUREYS yn chwarae eu cyngerdd olaf erioed yma fel rhan o'u TAITH FFARWEL ddydd Mercher 11 Mawrth.

Mae cewri canu gwerin Iwerddon, The FUREYS, a hwythau'n enwog am eu caneuon poblogaidd ‘I will love you’, ‘When you were sweet 16’, ‘The Green fields of France’, ‘The old man’, ‘Red rose café’, ‘From Clare to here’, ‘Her father didn’t like me anyway’, ‘Leaving Nancy’, ‘Steal away’ ac ati, yn dod i’n llwyfan am y tro olaf fel rhan o’u TAITH FFARWEL.

Gadawodd yr hynaf o’r brodyr, Eddie Furey gartref ym 1966 a theithio i’r Alban adeg yr adfywiad gwerin mawr lle cyfarfu ac y bu’n rhannu llety gyda’r cantorion gwerin Billy Connolly a Gerry Rafferty a oedd yn anadnabyddus ar y pryd.

Ym 1972, ysgrifennodd Gerry Rafferty 'Her father didn’t like me anyway' i Eddie. Bu i gyflwynydd Radio 1 y BBC, y diweddar John Peel, ei gwneud hi'n sengl y flwyddyn iddo.

Maent yn arbennig o falch o'u llwyddiant siartiau yn y Deyrnas Unedig gyda chaneuon fel I Will Love You a When You Were Sweet Sixteen, a helpodd yn ei dro i ddod â cherddoriaeth werin a thraddodiadol Iwerddon i gynulleidfa gwbl newydd. Gwnaeth y band eu hymddangosiad cyntaf ar Top of the Pops yn 1981.

Mae Eddie Furey yn cofio sut "mae llawer o gerddorion wedi dweud wrthon ni ein bod wedi dylanwadu arnyn nhw ar ôl clywed record o gasgliad eu rhieni neu neiniau a theidiau". Dywed Dave Stewart o The Eurythmics mai Eddie a ddysgodd ei gordiau cyntaf iddo ar y gitâr tra’r oedd o’n dal yn ei arddegau. Byddai Eddie yn dychwelyd y ganmoliaeth trwy ymuno â Dave ar y llwyfan ym Mharis am jam yn ystod priodas Dave â Siobhan Fahey o Bananarama.

Mae eu caneuon emosiynol yn cyffroi llawer o emosiynau, dagrau a chwerthin, tristwch a llawenydd.

Nos Fercher 11 Mawrth 2026
7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£27