Aelwyd yr Ynys choir from Anglesey and the artist who will be performing

Cyngerdd Mawreddog Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026

Cartref > Digwyddiadur > Cyngerdd Mawreddog Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026

Gwybodaeth


Dewch i brofi gwledd o ganu mewn noson arbennig lle bydd rhai o gantorion mwyaf disglair ac arobryn Ynys Môn yn dod ynghyd i rannu llwyfan.

Ceir datganiadau amrywiol gan Llio Eleri Evans, Catrin Angharad Jones, Osian Meilir, Gwen Elin, Steffan Lloyd Owen, Rhys Meilyr a Glesni Rhys. Yn cyfeilio iddynt fydd un o bianyddion gorau ei genhedlaeth, Iwan Llewelyn Jones.

Gyda phob un o’r artistiaid wedi meithrin eu talent a chael profiadau gwerthfawr ar lwyfannau Eisteddfodau’r Urdd, pa well ffordd i gloi’r cyngerdd nag yng nghwmni unawdwyr y dyfodol a pherfformiad gan Aelwyd yr Ynys.

Arweinydd y noson fydd Nia Lloyd Jones.

Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at gronfa leol Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.

Nos Sadwrn 7 Chwefror, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

Safonol: £15
O dan 18: £8