Only Men Aloud on stage singing with OMA letter behind them

Nadolig gyda Only Men Aloud

Cartref > Digwyddiadur > Nadolig gyda Only Men Aloud

Gwybodaeth


Mae’r enillwyr gwobr Classical Brit , Only Men Aloud yn dychwelyd i lwyfan y theatr gyda’u taith newydd ‘Christmas with Only Men Aloud’. Ar ôl taith hynod lwyddiannus i ddathlu 25 mlynedd yn2025 gyda llawer o sioeau wedi gwerthu allan, mae’r grŵp yn ôl yn ymweld â dinasoedd a threfi ledled Cymru ym mis Rhagfyr eleni gyda’u sioe fyw hudolus. 

Mae Only Men Aloud wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd ledled y byd ers dros ugain mlynedd. Ffurfiwyd y grŵp yn y flwyddyn 2000 gyda’r gobaith o ddod a bywyd a gwaed newydd i draddodiad Côr Meibion Cymru. Mae’r dynion wedi dod yn adnabyddus am eu lleisiau cryf a’u repertoire amrywiol, detholiadol. Mae cyngerdd nodweddiadol OMA yn cynnwys amrywiaeth o arddulliau cerddorol. O emynau Cymreig, caneuon Nadoligaidd, caneuon gwerin, opera a theatr gerdd, yr holl ffordd i A Capella a cherddoriaeth bop. 

Mae Only Men Aloud wedi cyflwyno nifer o berfformiadau cofiadwy ar hyd y blynyddoedd, gan ymddangos mewn nifer o wyliau awyr agored a chyngherddau, gan gynnwys cefnogi’r chwedlonol Diana Ross yng Nghastell Caerdydd yn 2022. Maent wedi perfformio ddwywaith yn The Royal Variety Performance, wedi bod ar sawl rhaglen deledu, wedi ennill Last Choir Standing, ac maent yn wynebau cyfarwydd mewn digwyddiadau chwaraeon; fe wnaethant ganu yn seremoni agoriadol Ryder Cup a Gemau Olympaidd Llundain 2012. Yn 2014, fe aethant ar daith hynod lwyddiannus o amgylch yr Unol Daleithiau, gan berfformio yn yr enwog Ŵyl Ravinia yn Chicago, a Gŵyl Cymru Gogledd America yn Minneapolis, heb sôn am berfformio yn nathliadau Rownd Derfynol UEFA yng Nghaerdydd.

Theatr Bryn Terfel

Nos Fercher 16 Rhagfyr, 7.30pm
(drysau 7pm)

£32