Cartref > Digwyddiadur > Cyngerdd Dathlu
Gwybodaeth
Mae Côr Eifionydd a Seindorf Arian Deiniolen yn falch o wahodd y tenor disglair Trystan Llyr Griffiths i ymuno â nhw i ddathlu’r Nadolig eleni.
Croesawn Trystan i Fangor ar ôl blwyddyn arbennig yn perfformio ar lwyfannau Opera De Monte Carlo, Opera Cenedlaethol Cymru, a La Monnaie, Paris. Dyma gyfle prin i glywed ei lais tenor eithriadol yma yng Ngogledd Cymru.
Mae Côr Eifionydd a Seindorf Arian Deiniolen yn adnabyddus ledled Cymru am eu safon gerddorol, eu cyfraniad i gyfoeth ein diwylliant, a’u cefnogaeth i gymunedau lleol.
Mae’r cyngerdd hwn yn nodi penllanw blwyddyn brysur a llwyddiannus i’r band a’r côr, dan arweiniad Lois Eifion a Pat Jones, gyda chyfeiliant gan Huw Geraint Griffith a Llio Marian Davies.
Dewch ynghyd gyda theulu a ffrindiau annwyl i ddathlu!
Nos Sadwrn 12 Rhagfyr, 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£20
