Cartref > Digwyddiadur > Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru: Glas
Gwybodaeth
Gadewch i CDCCymru eich tywys drwy noson o ddawns enbyd o hardd.
Pan nad yw geiriau’n ddigon, gall symudiad a chyffyrddiad ein sefydlogi. Wedi’i chreu yn 2012 ac wedi’i ail-greu eleni gyda CDCCymru, mae ‘Ordinary Courage’ gan Theo Clinkard yn adlewyrchiad didwyll o alar, colled a chryfder tawel cysylltiad dynol. Wedi’i osod i sgôr atgofus sy’n ymgorffori Scarlatti a Bach, mae’r gwaith hwn yn dwymgalon ac yn hynod o drawiadol a chathartig. Bydd yn aros yn eich cof am amser hir ar ôl i’r symudiad ddod i ben.
Mae ‘Untamed’ yn waith newydd o’r galon gan Alesandra Seutin (Enwebai Gwobr Olivier 2026 ac Artist Cyswllt Sadler’s Wells) wedi’i wreiddio yn yr ysfa ddynol i redeg. Cyrff wedi’u pweru gan emosiwn yn barod am ryddhad. Gyda'n gilydd, symudwn ymlaen. Ydym ni’n rhedeg i ffwrdd neu tuag at rywbeth newydd? Wedi’i gosod i drac sain ysgogol sy’n cynnwys offerynnau Cymreig traddodiadol a lleisiau cyndadol, bydd y ddawns athletaidd, awdurdodol yn bywiogi’r synhwyrau, yn puro’r enaid a’ch gadael yn syfrdan.
Nos Fawrth 10 Tachwedd, 7.30pm
Nos Fercher 11 Tachwedd, 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
Safonol: £16
Dros 60: £14
Myfyriwr: £10
Plentyn (dan 18): £8
Sgwrs ar ôl sioe nos Fawrth 10 Tachwedd
