Cartref > Digwyddiadur > Ballet Cymru 40
Gwybodaeth
Dewch i ymuno â Ballet Cymru i ddathlu ei ben-blwydd yn 40 oed gyda noson ysbrydoledig o ddawns wych a grëwyd yng Nghymru.
Bydd Ballet Cymru yn cyflwyno WOVEN, gan ddefnyddio cerddoriaeth gan y delynores Gymreig Catrin Finch mewn cydweithrediad â’r feiolinydd Wyddelig Aoife Ní Bhriain.
Bydd Cyfarwyddwr Artistig Phoenix Dance, Marcus J Willis, yn cyflwyno ei arddull nodweddiadol sy’n cyfuno hiwmor â cherddoldeb di-fai, mewn gwaith newydd rhagorol a luniwyd yn arbennig ar gyfer dawnswyr eithriadol Ballet Cymru: SENSIBLE CO-EXISTENCE.
Mae bale, cerddoriaeth a dawns gyfoes yn ymdoddi’n berffaith mewn noson o ragoriaeth greadigol. Noson fythgofiadwy o ddawns wych a grëwyd yng Nghymru.
Nos Iau 26 Tachwedd, 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
Safonol: £16
Dros 60 / dan 18 / myfyrwyr: £14
Canllaw oed: 7+
