The 5th Marquis, his cousin and butler with Plas Newydd estate in the background

Madfabulous (12A)

Cartref > Digwyddiadur > Madfabulous (12A)

Gwybodaeth


Yn y 1890au, mae'r lliwgar Henry Paget yn cyrraedd Ynys Môn, i hawlio ei etifeddiaeth fel y Pumed Marcwis. Ochr yn ochr â'i gyfnither fywiog Lily a'i fwtler ffyddlon Gelert, mae ecsentrigrwydd theatrig Henry yn swyno'r bobl leol ond yn cythruddo'r elît. Wrth iddo ymladd i greu hunaniaeth unigryw, rhaid iddo wthio yn erbyn traddodiadau mygus, perthnasau trachwantus, ac etifeddiaeth oer ei ddiweddar dad.

Sain Ddisgrifiad (AD) ar gael

Cyn Madfabulous, gwyliwch Access Denied—ffilm fer am gynhwysiant, wedi'i hysgrifennu gan ac yn serennu Rachel-Ann Osborn. Mae'r stori lled-hunangofiannol yn dilyn Martha, lesbiad anabl sy'n troi anhygyrchedd Pride yn gysylltiad cymunedol. Wedi'i chreu gyda TAPE Community Music and Film yng Ngogledd Cymru, sy'n adnabyddus am ei gwneud ffilmiau cynhwysol, dan arweiniad eiriolaeth.


Sgwrs Cyn Ffilm - Nos Fawrth 9 Mehefin
Cyn dangosiad 7pm o Madfabulous ar nos Fawrth 9 Mehefin, bydd Dr Lowri Ann Rees a Dr Mari William o Adran Hanes Brifysgol Bangor yn rhoi sgwrs fer ar y 5ed Marcwis Henry Cyril Paget a Phlas Newydd. Mae'r sgwrs yn dechrau am 7pm, ac yna'r ffilm am 7:30pm.

Mynediad am ddim i Blas Newydd gyda phob tocyn sinema Madfabulous

Diolch i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, rydym yn falch o gynnig mynediad am ddim i Blas Newydd a’r Ardd, cartref teuluol 5ed Ardalydd Môn, gyda phob tocyn sinema Madfabulous, gan roi cyfle i chi ddarganfod mwy am y person a ysbrydolodd y ffilm.

Gall ymwelwyr â Phlas Newydd ddangos eu tocyn sinema (argraffedig neu ddigidol) wrth gyrraedd i gael mynediad am ddim i Blas Newydd.

Bydd un tocyn sinema yn caniatáu un tocyn mynediad am ddim i Blas Newydd a’r Ardd, sy’n cynnwys mynediad i weld yr ystafell arddangos ‘Gwisgo’n Ffansi’, sy’n arddangos pum gwisg o’r ffilm Madfabulous.

  • Mae'r cynnig ar gael tan ddydd Gwener 17 Gorffennaf 2026.
  • Sylwch nad yw'r tocyn yn drosglwyddadwy ac nad oes modd cyfnewid am arian
  • Nid yw'r tocyn yn ddilys mewn digwyddiadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle mae tâl ar wahân yn berthnasol.
  • Dim ond mewn sinemâu sy'n cymryd rhan y mae'r cynnig yn ddilys.
  • Mae Ymddiriedolaeth Genedlaetholo yn cadw'r hawl i ddiwygio neu dynnu'r cynnig hwn yn ôl ar unrhyw adeg.

Cynlluniwch eich ymweliad yma; www.nationaltrust.org.uk/tocyn-sinema

£5

Celyn Jones, 2026, 108 mins
Callum Scott Howells, Ruby Stokes, Rupert Everett

Gwener 5 - Iau 18 Mehefin

Safonol: £8.50
Dros 60: £7.50
Myfyriwr / Dan 18: £6.50

CYNNIG ARBENNIG:
£5 i bawb (dangosiadau prynhawn Dydd Llun - Mercher)