Kiri in a long silver sequin dress holding a basket of apples in front of an apple tree

Kiri Pritchard-McLean: Josgin

Cartref > Digwyddiadur > Kiri Pritchard-McLean: Josgin

Gwybodaeth


Little Wander mewn cydweithrediad â PBJ Management yn cyflwyno

Kiri Pritchard-McLean: Josgin

Diffiniad o Josgin/Joskin/Joscin: term o Ogledd Cymru a ddefnyddir yn Saesneg ac yn Gymraeg i ddisgrifio unrhyw un sy'n dod o gefndir gwledig neu ffermio. Defnyddir y gair mewn ffordd annwyl ac mewn ffordd ddifrïol, gan ddibynnu ar y gynulleidfa. 

Dyma i chi daith newydd sbon gan seren Live at the Apollo a QI, Kiri Pritchard-McLean.

Ar ôl cael ei magu ar fferm ddefaid a gwartheg yng Nghymru gan rieni a ddaeth yn ffermwyr yn ddamweiniol, roedd Kiri yn benderfynol na fyddai hi byth yn ffermwr. 

Dros 30 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Kiri yn ôl yng nghefn gwlad. Mae ganddi fferm ond mae wedi colli rhiant, ac wedi penderfynu trwsio'r blaned, bwydo'r byd a cheisio adennill ei threftadaeth 'Josgin'. 

Mewn byd digidol lle mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gynnydd, dewch i weld digrifwr sy'n 'analog' iawn.

Nos Sadwrn 23 Hydref 2027
7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£18 - £20

Hyd y sioe: tua 30, egwyl, 55

Canllaw oed: 15+, iaith grêf

Llun: Drew Forsyth

Adolygiadau

“expect sequins, social commentary, and massive laughs from the renaissance woman of UK comedy” (Rolling Stone)