A nun standing in the woods looking up with one hand reaching up and the title Gwenllian in red

Gwenllian

Cartref > Digwyddiadur > Gwenllian

Gwybodaeth


Cynhyrchiad Theatr Cymru,
mewn cydweithrediad â Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC
a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Gwenllïan

gan Angharad Elen

“Dydyn nhw ddim wedi llwyddo i dy ddileu di. Ddim eto p’run bynnag...”

Priordy Sempringham, 1327. Saith can mlynedd yn union yn ôl.

Mae Gwenllïan yn byw bywyd tawel fel lleian, heb wybod dim am y byd y tu hwnt i furiau'r priordy nac am ei gwir hunaniaeth fel etifedd coron Cymru. Ond bob nos, mae’n dioddef hunllefau arteithiol ac yn clywed lleisiau’n siarad mewn iaith ryfedd ac anghyfarwydd – lleisiau mae’n credu sy’n perthyn i’r diafol ei hun...

Pan mae newydd-ddyfodiad yn herio’r drefn, mae diogelwch bregus Gwenllïan yn dechrau datod. Wrth i hen gyfrinachau fygwth ddod i'r wyneb, caiff ei gorfodi i gwestiynu popeth mae wedi’i ddysgu am bwy ydy hi a ble mae'n perthyn.

Yn yr ail-ddehongliad epig hwn o fywyd Tywysoges Olaf Cymru, mae Gwenllïan yn taflu goleuni ar y menywod sydd wedi’u dileu o dudalennau hanes, gan archwilio themâu hunaniaeth, pŵer a pherthyn sy’n atseinio yr un mor gryf heddiw ag yr oeddent 700 mlynedd yn ôl.

Wedi’i ysgrifennu gan Angharad Elen a’i chyfarwyddo gan Steffan Donnelly, mae Gwenllïan yn dod â’r stori ryfeddol hon i’r llwyfan mewn profiad theatrig unigryw gyda mwy na 30 o berfformwyr, gan gynnwys cantorion o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a dawnswyr o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Mae’r cynhyrchiad hwn yn bosibl diolch i gefnogaeth Grant Cynyrchiadau Mawr gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

---

Canllaw Oed: 14+

Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed gan gynnwys noethni a chynnwys rhywiol, hunan-niweidio, trais a chyfeiriadau at erthyliad a therfynu beichiogrwydd

Nos Wener 1 Hydref, 2027
Nos Sadwrn 2 Hydref, 2027
7.30pm

Theatr Bryn Terfel

Safonol: £24
Dros 60: £22
Plentyn (dan 18): £18
Myfyriwr: £18

Ysgolion: £15