Cartref > Digwyddiadur > Murder, She Didn't Write
Gwybodaeth
Gwisgwch eich het hela ceirw, cydiwch yn eich chwyddwydr a pharatowch eich 'bys o amheuaeth' oherwydd mae ffefrynnau Fringe Caeredin, Degrees of Error, yn dod â'u sioe hynod boblogaidd yn ôl i chi gael chwarae ditectif.
Byddant yn creu dirgelwch llofruddiaeth glasurol yn y fan a'r lle yn y gomedi fyrfyfyr ddyfeisgar hon. Chi, y gynulleidfa, yw’r awdur wrth i’r cast actio eich campwaith eich hun wedi’i ysbrydoli gan Agatha Christie yn fyw ar y llwyfan. Ym mhob sioe mae’r cwmni hynod dalentog hwn yn defnyddio awgrymiadau’r gynulleidfa i greu dirgelwch llofruddiaeth unigryw, gwreiddiol a hynod ddigrif dim ond i chi. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw...ei ddatrys!
Ms Gold wedi’i gwenwyno mewn gala nofio cydamserol? Canon wedi ffrwydro Dr Blue yn ystod ras balŵn aer poeth? Gwasgu'r Athro Violet i farwolaeth mewn aduniad Love Island? Chi sydd i benderfynu!
Ond a wnewch chi ddyfalu pwy sy'n euog cyn i'r llofrudd gael ei ddatgelu?
Nos Iau 14 Ionawr, 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
Safonol: £32.50
Dros 60: £26.50
Myfyrwyr / Dan 18 oed: £19.50
12+ (iaith gref a chyfeiriadau rhywiol, cyfranogiad y gynulleidfa, a gall gynnwys synau uchel)
