Cartref > Amdanom > Projectau a Newyddion > Corneli Cudd

Corneli Cudd


Preswyliad cerddorol sy’n pontio’r cenedlaethau rhwng pobl ifanc a’r henoed mewn cartrefi gofal yw Corneli Cudd.

Mae Corneli Cudd yn cynnig y cyfle i ddisgyblion sy’n astudio cerddoriaeth anelu at ddod yn rhan o gymuned y cartref gofal trwy berfformio gwahanol ganeuon ac arddulliau i’r cartref gofal cyfan, a hynny dan arweiniad Cerddor Preswyl penodedig.

Cynhaliwyd project peilot yn 2012 gyda’r cerddor cymunedol Manon Llwyd mewn cartref gofal ym Mangor am gyfnod o bedair wythnos. Yn dilyn llwyddiant y prosiect peilot, ehangwyd y preswyliad i gynnwys disgyblion ysgolion uwchradd lleol o Ysgol Tryfan yna Ysgol Dyffryn Ogwen ac yn fwy diweddar gyda myfyrwyr Coleg Menai. Cynhaliwyd y preswyliad mewn sawl cartref preswyl a nyrsio dros y pedair blynedd ym Mryn Llifon, Plas Hedd, Ceris Newydd, Fairways ym Mangor a Phlas Ogwen ym Methesda.

Mae’r enw Corneli Cudd yn deillio o nod gwreiddiol y prosiect i gyrraedd y corneli cudd yn y cartrefi gofal – yn yr ystyr gorfforol ac, ar rai achlysuron, dwy ddefnyddio cerddoriaeth i gyrraedd corneli cudd meddyliau preswylwyr sy’n byw gyda dementia.

Can i Emrys - Enillydd BAFTA

Yn 2013 ffilmiwyd y prosiect gan Osian Williams a oedd yn fyfyriwr Astudiaethau Creadigol ym Mhrifysgol Bangor a enillodd BAFTA ffilm fer orau Cymru – cyfarwyddwr ieuengaf i’w hennill.

Dyfodol Corneli Cudd

Yn dilyn llwyddiant prosiect Corneli Cudd, penderfynwyd Pontio i greu adnoddau i alluogi disgyblion a sefydliadau celfyddydol eraill cynnal eu preswyliadau Corneli Cudd eu hunain.

Pecyn Cymorth i Sefydliadau Celfyddydol

Mae Pecyn Cymorth wedi i’w greu ar gyfer Sefydliadau Celfyddydol sydd eisiau cynnal preswyliad o Corneli Cudd eu hunain. Mae’r Pecyn Cymorth manwl, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, yn arwain sefydliadau celfyddydol trwy’r broses o gynnal preswyliad Corneli Cudd, o’r gwaith trefnu i gynnal y preswyliad i waith gwerthuso.

I dderbyn y Pecyn Cymorth cysylltwch â Hanna Dobson h.o.dobson@bangor.ac.uk

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y pecyn, neu os ydych yn bwriadu cynnal preswyliad o Corneli Cudd eich hunain cysylltwch â Pontio dros e-bost neu ffôn: info@pontio.co.uk / 01248 38 28 28

Ariennir y pecyn hwn gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW).

Briff Wedi i’w Gymeradwyo, Bagloriaeth Cymru (Uwch) CBAC

Mae Corneli Cudd hefyd ar gael fel Briff Wedi i’w Gymeradwyo i ddisgyblion Chweched Ddosbarth fel rhan o fodiwl Her Y Gymuned Bagloriaeth Cymru  CBAC.

Pwrpas Her y Gymuned yw meithrin sgiliau dysgwyr, gan annog dysgwyr i nodi, datblygu a chymryd rhan mewn cyfleodd o fudd i’r gymuned.

Caiff disgyblion cerddoriaeth sy’n dewis cwblhau’r briff y cyfle i feithrin sgiliau cerddorol, cynllunio, trefnu, perfformio a chydweithio i weithredu preswyliad cerddorol ‘Corneli Cudd’ mewn cartref gofal o’u dewis.

Gweler y ddolen isod i weld y briff llawn a byddwch yn siŵr o gysylltu â Pontio os ydych yn dewis i gwblhau'r briff hwn.

Briff

Pob project ac eitmau newyddion