Cartref > Amdanom > Projectau a Newyddion > Cosi & Scratch 2025

Cosi & Scratch 2025


Cosi & Scratch logo

Ym mis Hydref 2025 cynhaliwyd noson Cosi & Scratch cyntaf Pontio ar y cyd â phroject Craidd. Bwriad y noson oedd cynnig cyfle cyflogedig i bedwar artist ddangos gwaith a syniadau newydd, cawsant y cyfle i ddatblygu eu syniadau yn ein Stiwdio theatr am ddiwrnod. Roedd modd i'r gwaith fod mewn unrhyw genre byw, e.e. theatr, syrcas, dawns, cabaret, comedi, sioe gerdd ac acti. 

Dyma gyfle arbennig i artistiaid drio gwaith a syniadau cwbl newydd i gynulleidfa byw, gan fanteisio ar y cyfle i gael adborth cynulleidfa heb bwysau i ddatblygu'r gwaith ymhellach na chyflwyno unrhyw beth gorffenedig - ond i fod mewn gofod creadigol ac i fwynhau creu a bod yn greadigol. Roedd yn rhaid bod yn artist lleol, neu gyda chysylltiad gyda Gogledd Orllewin Cymru i ymgeisio.

Yr Artistiaid

Yn dilyn galwad agored yn gynharach yn y flwyddyn a phroses dethol, dewiswyd pedwar artist i gyflwyno gwaith newydd i gynulleidfa byw sef Katie Gill, Gwen Thomson, Manon Gwynant ac Iza Gem. Darllenwch isod i wybod mwy amdanynt.

Close up portrait image of a woman smiling wearing a white collared shirt and black jumper

Gwen Thomson

Mae Gwen yn grëwr theatr aml gyfrwng sydd hefyd wedi ennill gwobr am ei gwaith fel cyfarwyddwr ffilm. Mae’n cael ei adnabod fel “theatrical Swiss army knife”. Dechreuodd ei gyrfa fel technegydd sain yn y Royal Exchange, Manceinion ac STV cyn gweithio ym myd theatr a ffilm fel rheolwr technegol, cyfarwyddwr, perfformiwr a dramodydd. Wedi ei hyfforddi mewn clownio, ffwlbri a gwiriondeb, mae Gwen yn ceisio cysylltu drwy doniolwch.

Agorodd Gwen y noson gyda darn clownio a theatr corfforol, gan dynnu ar ei phrofiad fel perfformiwr i blethu clownio, theatr corfforol a chomedi mewn darn gyda chymeriadu arbennig, byrfyfyrio a doniolwch.

Image of woman wearing a grey suit and bright blue socks dancing with her arms and right leg stretched out in front

Iza Gem

Mae Iza yn ymarferydd creadigol amlfodd, yn berfformiwr ac yn gyd-sefydlydd Cyfunol, sef cwmni ymchwil drwy berfformio cyfunol ym Mhorthmadog, Gwynedd. Wedi ei hysbrydoli gan iaith a ffyrdd amgen o gyfathrebu er mwyn archwilio syniadau o hunaniaeth, hanes a chymuned. Wrth blethu technoleg adweithiol gyda hygyrchedd o fewn ymarfer sy’n canolbwyntio ar symud, mae Iza yn awyddus i ddarganfod a datblygu ffyrdd o feithrin gofodau cynhwysol. 

Cyflwynodd Iza darn rhyngweithiol a oedd yn croesawu'r cynulleidfa i'r llwyfan yn llythrennol. Plethodd elfennau o ganu gwerin, canu torfol a goleuo cywrain i greu profiad synhwyrol yn y Stiwdio. Llwyddodd i greu naws ysbrydol a llonydd drwy ei pherfformiad.

Image of woman smiling with long brown hair and wearing a dark coloured top against a blurred background

Manon Gwynant

Sgwennwr ac ymarferydd creadigol sy’n angerddol am weithio gyda phobl ifanc a’r gymuned yw Manon, ac mae ganddi ddiddordeb mawr mewn archwilio rôl y celfyddydau ym mywyd pob dydd, ac o fewn cymunedau. Sefydlodd brosiect Troedio Tonnau yn 2024 er mwyn creu gofodau creadigol i bobl ifainc gogledd Cymru sy’n wynebu galar ddod at ei gilydd, ac mae’n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn tyfu’n adnodd Cymraeg, celfyddydol a fydd o fudd i bobl ifainc ar draws Cymru yn y pendraw. Hoff ffordd Manon o dreulio p’nawn braf yn yr hydref ydi crwydro llwybrau arfordir Cymru a nofio yn y môr cyn swatio â phaned i gynhesu.

Cyflwynodd Manon ddarn llafar ar ffurf barddoniaeth ac hynny yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cafwyd darn tyner a theimladwy wedi'i gyflwyno i seiniau'r cerddor Henry Horrell. 

Image of woman in a black velvet top stood against a pink background

Katie Gill

Mae Katie yn gomedïwr ac ysgrifennwr sy’n byw yng Ngogledd Cymru. Mae wedi perfformio ar draws Prydain gan gynnwys yng ngwyliau comedi Machynlleth, Caerlŷr a’r Dyn Gwyrdd. Eleni, mae Katie wedi cefnogi Kiri Pritchard-McLean a George Lewis ar eu teithiau cenedlaethol.

Cyrhaeddodd Katie Rhestr-fer Comedïwr Newydd y Flwyddyn gan y BBC ac mae wrthi’n creu ei sioe lawn cyntaf.

Cafodd Katie ysbrydoliaeth o'i bywyd personol yn ei darn theatr, drama fer un dynes gydag elfennau comedi yn llifo drwy'r darn. Dyma ddarn hynod bersonol oedd yn rhoi cipolwg inni o fywyd Katie a'r doniolwch y gellid ei weld mewn cyfnodau tywyll.

Dyfodol Cosi & Scratch

Ein bwriad hir dymor yw i gynnal noson Cosi & Scratch yn flynyddol gan gefnogi artistiaid lleol i ddatblygu gwaith newydd a chael y cyfle i drio gwaith newydd heb bwysau i'w ddatblygu ymhellach nac ychwaith i gyflwyno darn gorffenedig neu 'berffaith'. Byddwn yn cynnig tâl ar gyfer eich amser, yn ogystal â diwrnod yn ein Stiwdio theatr i ddatblygu'r gwaith a chefnogaeth gan ein technegwyr. 

Cadwch olwg am ein galwad agored nesaf!

Pob project ac eitmau newyddion