Cartref > Amdanom > Projectau a Newyddion > Trioleg Nadolig
Trioleg Nadolig
Trioleg Nadolig Pontio a Theatr Clwyd
Am dair blynedd yn olynnol, mae Pontio a Theatr Clwyd wedi cyd-gynhyrchu sioe Nadolig newydd sbon, wreiddiol i blant ifanc a'u teuluoedd. Mae rhain yn cynnwys Llew a'r Crydd yn 2018, Y Trol Wnaeth Ddwyn y 'Dolig yn 2019 a Gwrach yr Iâ yn 2020.
Llew a'r Crydd - 2018
Mae brawd a chwaer yn teithio’r byd yn casglu storïau er mwyn osgoi mynd ar goll. Un Noswyl Nadolig, a hwythau methu cysgu gan wybod bod Sion Corn ar ei ffordd, maent yn dweud stori, stori am Llew, hen grydd blin, corach hud, a thywysoges sy’n ysu i gael dawnsio. Ymunwch â ni ar antur hudolus, wedi ei hadrodd drwy gerddoriaeth, dweud stori a phyped digon od yr olwg.
Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd: Emyr John
Cast: Siôn Emyr a Siôn Eifion
Cynllunydd: Heledd Rees
Rheolwr Llwyfan: Seimon John
Rheolwr Cynhyrchu a Chynllunydd Goleuo: Gwion E Llwyd
Y Trol Wnaeth Ddwyn y 'Dolig - 2019
Daw'r ddau gymeriad hoffus Cwilsyn a Metso (Sion Emyr a Sion Eifion)yn ôl, ond y tro yma maent yn cael cwmni y ddawnswraig a storïwr Ballera (Elan Elidyr) a gyda'i gilydd maent yn adrodd stori trol sydd wedi dwyn y Nadolig a pha mor bwysig yw bod yn ddewr, disglair a beiddgar!
Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd: Emyr John
Cast: Siôn Emyr, Siôn Eifion ac Elan Elidyr
Coreograffi: Angharad Jones
Cynllunydd: Lois Prys
Rheolwr Llwyfan: Caryl McQuilling
Rheolwr Cynhyrchu a Chynllunydd Goleuo: Gwion E Llwyd
Gwrach yr Iâ - 2020
Mae Cwilsyn, Metso a Balera yn mynd ar daith unwaith eto, a’r tro yma maent yn adrodd stori Vasilisa. Mae Vasilisa’n cael ei herwgipio gan Wrach yr Iâ. I ddianc bydd arni angen ei holl ddewrder, drych sy’n siarad a thedi bêr.
Nid oedd modd croesawu cynulleidfa i Pontio i weld y cynhyrchiad hwn oherwydd Covid-19, ond rhoddwyd y cyfle i ysgolion fwynhau ysbryd y 'Dolig! Cafodd Gwrach yr Iâ ei pherfformio a'i recordio yn Stiwdio Pontio ac yna roedd ar gael i'w lawrlwytho.
Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd: Emyr John
Cast: Siôn Emyr, Siôn Eifion ac Elan Elidyr
Coreograffi- Angharad Jones
Cynllunydd: Lois Prys
Rheolwr Llwyfan: Caryl McQuilling
Cyfarwyddwr Technegol a Chynllunydd Goleuo: Gwion E Llwyd
Technegydd Sain: Tomos Smith






