Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > At Eich Coed

At Eich Coed


Arddangosfa amlddisgyblaethol yw AT EICH COED wedi ei chydlynu gan Pontio, Prifysgol Bangor a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU. Trwy amrywiaeth o osodiadau creadigol, gweithdai, sgyrsiau a pherfformiadau, mae'n plethu celf a gwyddoniaeth i gyfleu safbwyntiau amrywiol ar goed gan archwilio eu perthynas â phobl, bywyd gwyllt, a’r amgylchedd ehangach.

Dewch i brofi sut mae’n yn datblygu dros gyfnod Mawrth – Mai, drwy’r gweithgareddau a’r preswyliadau creadigol yn ein gofodau cyhoeddus.

“Yn yr arddangosfa, rydym yn dathlu rôl coed yn ein bywydau o bob safbwynt, o wyddorau coedwigaeth a chadwraeth, i feysydd iechyd a lles, ac i hanes a’r celfyddydau.

Coed sy’n ffurfio strwythur y cynefinoedd a geir mewn coedwigoedd, sef y mannau â’r fioamrywiaeth fwyaf ar y ddaear. Coed fu’r llwyfan ar gyfer hanes esblygiadol primatiaid, ac maent wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad gwareiddiad. Maen nhw’n darparu ar ein cyfer ddeunydd adnewyddadwy ar gyfer lloches, gan gloi carbon yn strwythur pren ein cartrefi a’n ddodrefn. Prifysgol Bangor yw prif ganolfan y Deyrnas Unedig ar gyfer ymchwil ac addysg ym maes coed, a’u cadwraeth a'u rheolaeth.”

John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol Bangor

“Mae coed o’n cwmpas ym mhob man ac maen nhw’n allweddol i iechyd y blaned, yn ogystal ag i les dynol. Mae pobl yn ymwneud â choed mewn sawl ffordd; gall coedwig neu goeden benodol chwarae rhan ganolog yn ymlyniad rhywun wrth le; gallant ysbrydoli gwahanol fathau o gelfyddyd; ac rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd gwyddonol coed ar gyfer ecosystem. Er ei bod yn amhosibl dal yr holl safbwyntiau hyn mewn un arddangosfa, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig ymdrin â’r pwnc mewn ffordd amlddisgyblaethol sydd mor gynhwysol â phosibl, gan gynnig ysbrydoliaeth mewn amryw o ffyrdd.”

Thora Tenbrink, Athro Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor

DYDDIADAU

Nos Wener 3 Mawrth, 5.30 - 7.30pm

LANSIAD - Yn ystod yr agoriad bydd perfformiadau cerddorol gan Tegid Rhys ac Ensemble Sielo Gwynedd, perfformiad barddonol gan Briony Collins a Caleb Nichols (Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau), yn ogystal a sesiwn EGINO gan yr artistiaid preswyl Utopias Bach.

Nos Fawrth 14 Mawrth, 6.30pm

Perfformiad barddonol gyda Jason Allen Paisant a disgyblion Ysgol Friars.

Dydd Sadwrn 18 Mawrth

11am + 1pm : Gweithdy creadigol gyda Utopias Bach (11+) fel rhan o ddiwrnod Teulu Pontio. Wedi ei arwain gan Rhys Trimble.

11.30am + 1.30pm: Sgiliau crefftau'r coed gyda Coed Lleol (8+) wedi ei arwain gan James Carpenter

Dydd Sadwrn 8 Ebrill

Woodland Tales with Grandad a gweithdy gyda Utopias Bach (3+) wedi ei arwain gan Rhona Bowey.

Nos Iau 4 Mai, 7 - 9pm

Noson Ciosg Celf ar lwyfan y bar

Penwythnos 26 - 27 Mai

Digwyddiadau clo

At Eich Coed Anthony

ANTHONY YNOHTNA

Mae gwaith amlgyfrwng yr artist Anthony Ynohtna yn ffurf o fynegiant a hunan-therapi. Mae ei waith yn ystyried iechyd meddwl a lles, gan fyfyrio ar sut gall celf fod yn therapiwtig yn sgîl effaith trawma.

Mae ei ddarn ‘Euler’ yn hongian ym mhrif atriwm Pontio, wedi ei greu o styllod pren sy’n ffurfio siâp helics. Wedi ei ddylanwadu gan batrymau ym myd natur, mathemateg a gwyddoniaeth, mae’n creu cysylltiadau rhyngddynt ac yn ein hatgoffa o bresenoldeb a dylanwad dynol ym mhob elfen o’n hamgylchedd ni.

https://www.troiiica.art/anthony-ynohtna

At Eich Coed Utopias Bach

UTOPIAS BACH

Mae Utopias bach yn golectif creadigol sy’n eich gwahodd i archwilio perthnasau personol a chymunedol y byd dynol a mwy-na-dynol. Dros eu preswyliad, byddant yn defnyddio celf, ffotograffiaeth, barddoniaeth, mapio, gwneud gwisgoedd, perfformiadau, storïau ac ymchwil gydweithredol i greu cymuned rhyng-gysylltiol fel coedwig.

Bydd eu Hysgol Arbrofol yn gyfres o gylchoedd yn ymateb i gwestiwn gwahanol, lle bydd cyfle i gymeryd rhan adref, ar-lein ac yn Pontio. Maemwy o wybodaeth ar gael yma: www.utopiasbach.org/intro-at-ein-coed
At Eich Coed Joe Roberts

JOE ROBERTS

Mae Joe Roberts yn artist, gof a strategydd sector yr amgylchedd. Yn ei ymarfer creadigol mae’n plethu botaneg, sŵoleg ac anthropoleg, gan droi at brosesau ecolegol fel ffordd o archwilio dynoliaeth.

Yma, mae wedi creu ‘Pobman ar unwaith a nunlle’n arbennig’, sef cerflun wedi’i seilio ar y goeden Ywen olaf ar safle Eglwys Llanfair Garth Branan, yr eglwys ganoloesol a eisteddai ar dir Prifysgol Bangor. Drwy sganio digidol a sawl cam o ddehongli cyn ei ail-ffurfio mewn metel, mae’n adleisio’r trawsnewid i strwythur y goeden dros amser gan archwilio'i mycelia ffisegol a throsiadol.

https://www.joeroberts.art/

At Eich Coed Moly Macleod

MOLLY MACLEOD

Gan weithio ar groesffordd celf a gwyddoniaeth, mae Molly wedi tyfu crisialau sy’n clywed sŵn, meithrin imprint microbaidd ymwelwyr Tate Modern, datgelu’r byd sonig tu mewn i goed a’r cerrynt trydanol sydd wedi’i guddio yn y pridd o dan ein traed. Graddiodd mewn MA Celf a Gwyddoniaeth yn Central Saint Martins, ac mae wedi cydweithio ag ecolegwyr a gwyddonwyr o Ganolfan WEISS, CERN a Sefydliad Technoleg Tokyo.

Yn ystod ei phreswyliad, bydd yn archwilio'r Greddinen Menai prin, rhywogaeth sydd mewn perygl o ddiflannu, ac sydd ond i’w chanfod mewn ardal fechan ar lan y Fenai, sef Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Nant Porth.

https://mollymacleod.allyou.net/

CYFRANWYR

Yn ogystal a'r prif gomisiynau a phreswyliadau, bu gwahoddiad i staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor i gynnig cyfraniadau mewn ffurf o’u dewis, gyda’r aelodau canlynol yn rhan o’r arddangosfa a’r rhaglen o ddigwyddiadau cysylltiedig.

Ysgol Gwyddorau Naturiol
Amy Gresham
Heli Gittins (+ Coed Lleol)

Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
Anna Monnereau
Lucy Finchett-Maddock

Ysgol Gwyddorau Eigion / Gardd Fotaneg Treborth
Kathryn Davies

Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU
Catherine Walker
Kate Randall

Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau
Caleb Nichols + Briony Collins
Lina Davitt
Judith Samuel
Sarah Pogoda
Zoë Skoulding

Y Ganolfan BioComposites
Morwenna Spear
Simon Curling
Athansios Dimitriou
Carlo Kupfernagel
Chris Miles

Bydd cyflwyniad arbennig ‘For Dom, Bruno & the Amazon’ hefyd, er cof am y newyddiadurwr Dom Phillips a’r arbenigwr brodorol Bruno Pereira gafodd eu llofruddio’r llynedd wrth iddynt ymchwilio yn yr Amazon.

Diolchiadau

Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Hefcw a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Pob arddangosfeydd