Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > Psylence '24

Psylence '24


Arddangofsa  Psylence yn Pontio Bangor

4 - 21 Hydref

Mae Pontio yn cyflwyno arddangosfa arbennig i ddathlu a chofio ein cyfaill a chydweithiwr, Emyr Glyn Williams (Emyr Ankst). Psylence oedd un o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous i Emyr gydlynu yn ei waith yma’n Pontio gyda bandiau megis Datblygu, Adwaith, ac R. Seiliog yn gosod cerddoriaeth a’i berfformio’n fyw i ffilmiau megis: Kiss gan Andy Warhol, ffilmiau byr Maya Deren, Earth gan Dovzhenko, a llawer iawn mwy.

Fel rhan o'r arddangosfa cafwyd murlun gan Jess Balla wedi'i ysbrydoli gan label recordiau Ankst a sefydlwyd gan Emyr a'i ffrindiau yn ogystal â phosteri, cloriau recordiau, fidios miwsig a mwy i'w gweld.

Pob arddangosfeydd