Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > Pontio Skate
Pontio Skate
Ar Awst 31ain 2021, cynhaliodd Pontio ddigwyddiad yn dathlu sglefrfyrddio fel rhan o Gŵyl Goncrit. Creodd sglefrwyr lleol ardaloedd i arbrofi a pherfformio yn y gofod, a chafodd pobl ifanc gyfle i roi cynnig ar sglefrfyrddio am y tro cyntaf.
Wrth adlewyrchu a dathlu'r digwyddiad cymunedol hwn, a thrwy archwilio agweddau eraill ar ddiwylliant sglefrfyrddio - yn lleol ac yn fyd-eang - mae Jess Balla wedi bod yn creu gwaith ac yn curadu gwaith eraill i'w arddangos yn yr oriel fel rhan o’i phreswyliad.
Mae'r darlun mawr ar y ffenestri yn gyfuniad o deimladau, syniadau a dehongliadau Jess o'r prosiect - ymgais i dynnu sylw at fomentau o ddiwrnod ‘Skate’ Pontio, gan dalu teyrnged i'r sglefrfyrddwyr, ffotograffwyr ac artistiaid â fu’n cydweithio ac yn dogfennu'r digwyddiad trwy eu celf. Rydyn ni'n fyd sy'n cael ei glymu’n agosach drwy dechnoleg a delweddau, sy’n iaith fyd-eang: mae'r ffôn symudol a'r hysbysfwrdd yn gweithredu fel platfform ar gyfer y ffotograffau hardd, fel bod y delweddau'n aros ym meddwl y gwyliwr y tu hwnt i sgrôl gyfarwydd y cyfryngau cymdeithasol. Arddangosir ffotograffau ar ddwy ochr y ffenestr er mwyn gwneud yr arddangosfa'n fwy cynhwysol a chyrraedd y rhai nad ydynt efallai am ddod i mewn.
Bydd ffilm ddogfen fer o'r diwrnod sglefrio a grëwyd gan Dafydd Owen yn cael ei harddangos yn ogystal â fidio sglefrio gan y sglefrfyrddiwr lleol Yannick Hammer. Yn addurno waliau'r oriel, mae dau ddarlun mawr o argraffiadau sglefrfyrddio ar bapur, sawl tudalen o zine sglefrfyrddio lleol gan Aled Oddy, yn ogystal â chasgliad o ddarluniau a dyfyniadau a grëwyd gan bobl ar ddiwrnod y gweithdy Sglefrio ym Mhontio.
Cyfrangowyr (+ enwau Instagram):
Y sglefrfyrddwyr - eu hamser, egni a’u hymroddiad
Jess Balla @ballawaves - artist preswyl, darlun ffenest a churadur y gofod
Manon Awst @manon_awst - curadur/cydlynydd
Stewart MacKellar @stewmackellarphoto - ffotograffau o fewn y ‘billboard’ a’r ‘ffôn symudol’ sy’n y ffenest
Jordan Phoenix @jardanphoenix - ffotograffau o fewn y ‘ffôn symudol’ sy’n y ffenest
Aled Oddy @aoav.studio - tudalenau o zine Sglef’
Dafydd Owen @ffotonant - ffilm fer am y gweithdy SKATE ar y sgrin fawr
Yannick Hammer @blank_echo - ffilm ar sgrin fach
Max Ansell - benthyciad y sglefryrddau yn y cas gwydr
Pobl ifanc – darluniau
Proses arlunio Jess ar gyfer prosiect SKATE Pontio
Man cychwyn i Jess yn ystod y cyfnod preswyl hwn oedd edrych ar bensaernïaeth
amddiffynnol, mesurau fel ‘skatestoppers’ sy’n anelu at atal sglefrwyr rhag sglefrio mewn rhai ardaloedd, a diddordeb yn y modd y mae penseiri yn siapio ein gweithredoedd a’n symudiadau o fewn gofod trefol. Fodd bynnag, mae sglefrwyr yn arloesol, yn benderfynol ac yn ddewr - gellir darllen unrhyw amgylchedd gelyniaethus fel her, nid fel ataliad, a byddant yn dod o hyd i ffyrdd dychmygus newydd o symud trwy ofodau. Mae eu dehongliad a'u mynegiant o'r byd yn esblygu'n gyson mewn modd corfforol sy'n creu tirwedd o bosibiliadau.
Trwy ei darlun, mae Jess yn cwestiynu os yw’n bosib diogelu lleoedd ar gyfer sglefrio ac agor sgyrsiau ynghylch defnydd gofodau, yn ogystal a gofyn os allwn werthfawrogi sglefrfyrddio fel mynegiant creadigol o'r gymuned? A allwn ni greu dinasoedd sglefrio yma yng Ngogledd Cymru fel mae
Malmö wedi gwneud yn Sweden? A all fod yn ffurf ddiwylliannol sy'n cael
ei gwerthfawrogi a'i dathlu yma?
Mae mabwysiadu sglefrfyrddio yn y Gemau Olympaidd wedi gwneud pobl yn fwy goddefgar, ymwybodol a hyd yn oed yn gyffrous am sglefrfyrddio. Ond er bod rhai yn ennill medalau ac yn sicrhau nawdd a chefnogaeth, mi fydd yna wastad ffyrdd amrywiol o gael mynediad, neu ddim yng ngolwg rhai.
O ddiddordeb i Jess yw prosiectau fel Skateistan, prosiect sglefrio ac addysgol a sefydlwyd yn Kabul, Afghanistan, sy'n dysgu plant o bob cefndir economaidd-gymdeithasol i sglefrfyrddio, ac mae 40% ohonynt yn ferched. Bellach mae prosiectau Skateistan ar sawl cyfandir.
Yn y bôn, mae sglefrfyrddio yn daith greadigol ar blanc o bren a phedair olwyn, sy’n torri trwy ddosbarthiadau cymdeithasol a cherfio gorwelion newydd. Mae'n weithred dewr a chwareus sy'n hybu hunanfynegiant ac yn cynhyrchu gofod arbennig, cynhwysol a rhyng-genedlaethol. Mae'n weithred sylfaenol, greddfol a chorfforol - diwylliant sy'n dod ag ymwybyddiaeth a pharch at y corff. Mae Jess yn dyfalu efallai mai dyma pam mae esgyrn a phenglogau sydd wedi torri wedi cael eu cynrychioli mor weledol gan y diwydiant sglefrfyrddio - mae'r risgiau'n real ac yn boenus, ond mae'r cyfleoedd yn werth chweil, yn agored ac yn hael.
Mae Jess wedi cael ei hamgylchynu gan sglefrfyrddio a diwylliant BMX ar hyd ei hoes, ac mae ganddi gysylltiad cryf â chwaraeon arddull rydd - sy’n cynnwys ei hangerdd at syrffio. Gan gydnabod y tebygrwydd o sut mae'r rhain yn siapio ffordd o fyw, mae ei phrofiadau byw a'i dealltwriaeth yn cael eu cyfieithu'n weledol i'r llinellau, y cromliniau a'r llwybrau rydych chi'n eu gweld yn y ffenest. Maent yn archwilio symudiad, y tonnau, y cynigion hylif sy'n bosib ar fwrdd - byd o freuddwydion a hud sy’n trawsnewid, a mynd â chi i lefydd cyffrous; antur sydd ddim yn ddibynol ar arian - dim ond dychymyg.
I weld mwy o waith creadigol Jess ewch i @ballawaves ar Instagram neu dilyn y linc canlynol ar gyfer ei gwefan!
