Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > Last Women Standing
Last Women Standing
Arddangosfa gan dair o raddedigion diweddar MA Celf Gain
Niki Cotton, Kate Parker a Simone Williams
6.6 – 28.8.2022

Niki Cotton
Pray God you can cope
I stand outside this woman’s work
This woman’s world - Kate Bush
Mae Niki’n artist sy’n gweithio ar draws sawl cyfrwng gan gynnwys collage, peintio, printiadau, cerflunio, perfformio, tecstilau a ffotograffiaeth. Fel rhywun sy’n cysylltu ei hun â’r Generation X, mae Niki’n aml yn cyfeirio at ddiwylliant pop a cherddoriaeth yr 80au a’r 90au, yr Americana a natur wrthryfelgar Punk. Ers cwblhau MA mewn Celf Gain, mae Niki’n ystyried beth yw bod yn fenyw ac yn fam yn yr 21ain Ganrif a’r tensiynau mewnol sy'n digwydd yn ogystal â phwysau di-ddiwedd gwaith domestig. Mae ei gwaith yn adleisio’r gwallgofrwydd o orfod jyglo bywyd gorlawn lle mae’n dweud ei bod “yn teimlo fel cacen sydd heb ddigon o dafelli i fynd o gwmpas yr holl bobl yn y parti”.

Kate Parker
And although home is name, a word, it is a strong one; stronger than any magician ever spoke, or spirit answered to, in strongest conjuration. - Charles Dickens
Mae ymarfer artistig Kate yn cwmpasu cyfryngau peintio, cerflunio a phrintiadau. Mae hi'n archwilio syniadau am y catref gan ddefnyddio ffabrigau a chynfasau sy'n llifo'n rhydd, gwrthrychau parod a naratifau hunangofiannol. Rhwng plygion y gweithiau mae straeon cudd ac adleisiau o atgofion, teithiau a chysylltiad â thirweddau sy’n gwau ymdeimlad o berthyn. Bwriad y corff hwn o waith yw archwilio ein cysylltiad dwfn â gofodau domestig a chwestiynu sut mae'r gofodau yma’n ein helpu i ffurfio hunaniaeth.

Simone Williams
Yn ei cherfluniau, gosodiadau a gwaith digidol, mae Simone yn ymdrin â materion amgylcheddol ac ecolegol. Gan gymryd ysbrydoliaeth o fyd natur, mae hi’n aml yn defnyddio pethau byrhoedlog fel golau, dŵr a rhew yn ei gwaith.
Mae ei "Phrosiect Afon Gogledd Cymru" yn archwilio'r afon fel endid byw mewn perthynas â'r gred hynafol mewn animistiaeth, un o'r crefyddau hynaf sy'n hysbys i ddynolryw. Mae hi hefyd yn cyfeirio at Gaia Hypothesis gan James Lovelock. Mae byrhoedledd wrth wraidd y gwaith: byrhoedledd dŵr, hinsawdd, a ninnau fel rhywogaeth ar y Ddaear.