Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > I’r Eithaf – Finale
I’r Eithaf – Finale
I'r Eithaf - Finale
Sioe Radd BA Celfyddyd Gain, Prifysgol Bangor
18 - 29 Mai
12 - 5pm (ar gau Mai 23)
Noson Agoriadol: 17 Mai, 6.30pm - 8pm
Lleoliad: Bocs Gwyn (Lefel 2) + Llawr Gwaelod
Sioe BA Celfyddyd Gain 2022
Mae’r arddangosfa yma yn ddathliad o waith caled a chyflawniadau
creadigol y myfyrwyr yn ogystal â bod yn sioe radd olaf i Brifysgol
Bangor.
Sefydlwyd y cwrs rhan amser chwe mlynedd yma yn 1998 yn ddarpariad
pwrpasol i fyfyrwyr â phrofiad bywyd a gyrfa blaenorol. Hwn oedd y cwrs
cyntaf i gynnig gradd gelf yn seiliedig yn y gymuned yn y DU, a
derbyniodd gymeradwyaeth arloesi a rhagoriaeth gan yr UAL. Cafodd y cwrs
ei ddysgu ar draws nifer o leoliadau ledled Gogledd Cymru gan gynnwys
Bangor, Ynys Môn, Bae Penrhyn a Phorthmadog. Yn sgîl diffyg cyfleusterau
a strwythurau traddodiadol, mynnwyd arferion dysgu arwlyol er sicrhau
profiad dysgu o safon i’r myfyrwyr. Egwyddor sylfaenol y cwrs oedd
cefnogi myfyrwyr i ddatblygu ymarfer cynaliadwy yn eu cartrefi a’u
cynefinoedd er sicrhau parhad yr ymarfer hwnnw yn artist proffesiynol
wedi graddio.
Trwy gynnigion ategol megis artistiaid gwadd, ymweliadau orielau,
seminarau a thiwtora unigol, darparodd y cwrs y cyfle i fyfyrwyr wireddu
eu potensial trwy ddatblygiad creadigol personol o fewn i gyd-destun
cyfoes.
Dathlu Celfyddyd Gain
Fe fydd 27 o diwtoriaid sydd wedi addysgu ar y cwrs yn ymgynnull ar
gyfer arddangosfa ffarwel yn Storiel, Bangor 9 Gorffennaf – 1 Hydref
2022.
