Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > Ffoaduriaid a Sosialaeth Genedlaethol
Ffoaduriaid a Sosialaeth Genedlaethol

Mae’r Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich gwahodd i fynychu:
‘Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol: Dysgu oddi wrth y Gorffennol i Lywio’r Dyfodol’
Lleoliad: Gofod Arddangos Llawr Gwaelod
Dyddiad:8 Mehefin 2023, 5 - 7pm
Mae’r arddangosfa hon yn olrhain hanes ffoaduriaid yng Nghymru o’r 1930au tan heddiw. Mae’n adrodd hanesion y rhai a ffodd rhag Sosialaeth Genedlaethol yng Nghanolbarth Ewrop i chwilio am noddfa, ac yn nodi cyffelybiaethau â ffoaduriaid cyfoes.
Mae’n cynnwys gweithiau celf, gwrthrychau, ffotograffau, a llenyddiaeth a grëwyd gan ffoaduriaid a rhai a weithiodd ochr yn ochr â nhw, yn ogystal â ffilm arddangosfa gan y gwneuthurwr ffilmiau Amy Daniel, sy’n astudio bywydau ffoaduriaid ddoe a heddiw.
Trwy gyfrwng y deunydd hwn, gobeithiwn ddysgu am brofiad ffoaduriaid yng Nghymru gan ofyn cwestiynau am amrywiaeth cymdeithas Cymru, gwahaniaethau crefyddol ac ieithyddol, a heriau cymdeithasol, addysgol ac economaidd.
