Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > Coflaid Cofid

Coflaid Cofid


Mae Coflaid Cofid yn ymateb creadigol gan Iola Ynyr i gefnogaeth mae wedi ei dderbyn gan ferched eraill dros gyfnod y clo yn ystod 2020 dan Nawdd Sefydlogi Unigolion Cyngor Celfyddydau Cymru ac mewn partneriaeth gyda Pontio a Chyngor Gwynedd.

Profiad digidol oedd penllanw’r prosiect sy’n dangos sut y gall merched deimlo dan fygythiad gan ddisgwyliadau eu hunain a’i gilydd. Ystyrir sut mae’r cyfnod clo wedi gorfodi merched i ail-ystyried eu rol o fewn eu teuluoedd, gwaith a’u hunain gan edrych o’r newydd ar eu dyheadau, eu hofnau a'u rôl o fewn disgwyliadau cymdeithasol, gwleidyddol ac ysbrydol. Trwy siarad yn onest a thrwy mynegiant celfyddydol dangoswyd sut mae modd wynebu heriau a dathlu bod dioddefaint yn rhan o brofi’r byd.

Mae’r prosiect wedi annog merched i ddatgelu gwirioneddau anodd sydd yn groes i’r hyn sydd wedi ei ystyried yn ‘dderbyniol’ i’w rhannu ond o fewn awrgylch o barch a diogelwch. Mae Coflaid Cofid yn dathlu gallu'r celfyddydau i fynegi, cwestiynu a newid y byd trwy'r synhwyrau ac yn gymdeithasol mewn ffyrdd ysgytwol, ystyrlon ac ysbrydol.

Cliciwch yma i wylio'r gwaith terfynol draw ar Sianel Pontio ar wefan ac ap AM.

Yr Artistiaid

Iola Ynyr

Miriain Fflur

Nia Dryhurst

Denise Gough

Nurit Gordon

Lleucu Non

Marged Sion

Kristina Banholzer

Or Danon

Carys Gwilym

Lindsay Walker

Project Manager

Caryl McQuilling

Mentor

Sarah Argent

Editor

Dafydd Hughes

DSC05222
Iola ynyr

Iola Ynyr

"Mi dyfodd y syniad o Coflaid Cofid wedi i mi fynychu sawl grwp cefnogi hefo merched dros Zoom ar gychwyn y cyfnod clo. Trwy rannu yn agored am heriau ac ofnau a ddeilliai o'r profiad unigryw hwn, roedd modd i ni siarad yn onest a chynnig cefnogaeth i'n gilydd.

Dwi yn alcoholig mewn adferiad ac felly wedi arfer wynebu a rhannu am fy mhrofiadau o sut mae fy iechyd meddwl a chorfforol wedi effeithio ar fy llesiant. Ond mae Cofid wedi gorfodi pob un ohonan ni i wynebu ein hunain a gweld bod yna freuder a newid cyson yn ein iechyd meddwl a chorfforol.

Yn raddol, mi ddoth ambell sgwrs ar ochr ffordd neu yn ddigidol yn brofiad o ddangos pryder a breuder. Roedd yna grio a rhannu mewn ffordd nad oeddwn i wedi ei brofi o'r blaen gyda merched o bob oed a chefndir.

Teyrnged ydi'r prosiect digidol i ddewrder merched yn fodlon chwalu y ddelwedd o 'berffeithrwydd' er mwyn magu nerth i ddelio'n ymarferol ac ysbrydol hefo bywyd.”

Lleucu Non

"I fi, roedd y prosiect Coflaid Cofid yn fynegiant gonest o ymateb benywaidd i anwadalrwydd y byd. Dengys pwysigrwydd cefnogaeth dwyochrog rhwng pobl, yn enwedig menywod at ei gilydd. Nes i gyfrannu animeiddiad yn portreadu fy unigrwyddbyn ystod lockdown. Mae’r dilysiad gan fenywod a phobl eraill yn fy helpu i bwysleisio meddyliau a theimladau difrifol yn ogystal ag atgofion hapus."

Pob arddangosfeydd