Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > Sylfaen Celf Bangor 40 + 1

Sylfaen Celf Bangor 40 + 1


Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

 
 
  • Gwaith gan Angharad Pearce Jones
  • Gwaith gan Iolo Rees
  • Gwaith gan Niki Cotton

Lleoliad: Gofodau cyhoeddus

Dyddiad: 22 Ionawr – 2 Ebrill 2021

Mae’r arddangosfa hon yn dathlu 40 mlwyddiant y cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai. Caiff ei chynnal yn Pontio ac yn Storiel ym Mangor, ac mae’n cynnwys gwaith dros 40 o gyn-fyfyrwyr y cwrs Sylfaen Celf, sef artistiaid a dylunwyr sy’n ymarfer eu crefft yn gyfredol.

Roedd bwriad cynnal yr arddangosfa llynedd ond bu rhaid gohirio’r digwyddiad oherwydd y pandemig, felly mae wedi ei henwi’n addas 40+1 Sylfaen Celf Bangor Art Foundation.

Wedi ei lansio ym 1981, cyflwynwyd y cwrs gan nifer o artistiaid a dylunwyr gan gynnwys Peter Prendergast, Paul Davies, Ed Davies, Phil Mumford ac Alan Brunsdon, dan arweiniad Selwyn Jones. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae’r cwrs bellach dan ofal mab Peter, sef Owein Prendergast, ochr yn ochr â Miranda Meilleur, Iwan Parry, Darren Hughes, Tim Williams a Helen Jones.

Meddai Owein Prendergast: “Dim ond cip bychan yw hyn - mae miloedd o fyfyrwyr wedi mynd drwy ddrws y cwrs Sylfaen Celf ym Mangor ac yna ymlaen i droedio eu llwybrau creadigol eu hunain, a byddai yn amhosib cynrychioli pob un ohonynt yn unigol. Ond gobeithio bydd yr arddangosfa hon yn dangos yr ysbryd cyfunol sy’n cael ei rannu ymysg y rhai ohonom wnaeth gwblhau’r cwrs arbennig hwn.”

Bydd mynediad am ddim i’r arddangosfa, sydd ar agor o 22 Ionawr tan 2 Ebrill 2022.

21 – 23 Ionawr
Lansiad yr arddangosfa gyda ffilmiau gan Bethan Huws a Bedwyr Williams

1 Chwefror
Dangosiad y ffilm ‘Shepherd’ gan Russell Owen yn y sinema a sgwrs gyda’r artist. Prynwch docynnau i'r dangosiad yma!

Pob arddangosfeydd