photos of three people inside triangles

Pictiwrs a Pram: Verity (15)

Cartref > Digwyddiadur > Pictiwrs a Pram: Verity (15)

Gwybodaeth


Mae 'Pictwrs a Pram' yn cynnig profiad unigryw i rieni/gofalwyr sydd â babanod dan 12 mis oed. Mae'n gyfle i weld y ffilmiau diweddaraf mewn amgylchedd diogel ac anfeirniadol, gyda'r sain yn îs a mwy o olau. Ni fydd modd dewis ei sedd wrth archebu ond nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael (20) felly bydd digonedd o le yn y Sinema.

Peidiwch â phoeni am eich pram; gallwch ei gadw yn y sinema. Os yw eich babi yn ffyslyd neu angen bwyd, gallwch deimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny wrth wylio'r ffilm.

Mae’r dangosiadau am ddim i’r babanod, ac oedolion yn talu £5. Mae ‘Pictiwrs a Pram’ ar gyfer rhieni/gofalwyr a babi yn unig ond os oes gennych blentyn hŷn gyda chi a'r babi a bod y dystysgrif yn U, PG neu 12A, gallant hefyd fynychu (does dim angen tocyn i blant dan 2 oed).

Y FFILM - VERITY (15)

Mae Jeremy Crawford yn cyflogi Lowen Ashleigh i ysgrifennu nofelau ar ran ei wraig, Verity – awdur poblogaidd sy'n methu â'u gorffen yn dilyn damwain. Wrth fyw yng nghartref y teulu Crawford i wneud y gwaith, mae Lowen, yn raddol, yn datgelu gwirioneddau cythryblus am Verity.

Michael Showalter, 2026, 117 mins
Anne Hathaway, Dakota Johnson, Josh Hartnett

Dydd Mercher 4 tachwedd, 10.30am

£5